Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.6 Adnoddau datblygu e-ddysgu

Dylai’r rhan fwyaf o athrawon sy’n hyddysg wrth ddefnyddio cyfrifiaduron allu creu cynnwys addysgu diddorol gan ddefnyddio’r adnoddau a amlinellir yn yr adran hon. Fodd bynnag, mae rhai adnoddau mwy cymhleth ar gael sy’n gallu'ch helpu i gynhyrchu deunyddiau addysgu ar-lein cynhwysfawr, amlgyfrwng a rhyngweithiol. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymdrwytho mewn adnoddau a thechnegau newydd i greu cynnwys, fe allech roi cynnig ar un o’r adnoddau awduro canlynol. Bydd chwilio’r we am ‘adnoddau awduro e-ddysgu’ yn cynnig ystod o dechnolegau cyfredol y gallech roi cynnig arnynt. Ar yr adeg ysgrifennu, roedd adnoddau poblogaidd yn cynnwys Adobe Captivate, Articulate Storyline, Xerte Online Toolkits, Canvas, OpenLearn Create, a mwy – mae adnoddau newydd yn ymddangos bob blwyddyn.