1.7 Platfformau Gwegynadledda
Er nad yw athrawon unigol yn prynu’r rhain fel arfer, mae’r rhan fwyaf o sefydliadau wedi buddsoddi mewn o leiaf un platfform dysgu sy’n cynnwys swyddogaeth wegynadledda. Efallai y byddwch wedi clywed am Adobe Connect a Blackboard Collaborate, er enghraifft, ond mae llawer o gynhyrchion tebyg ar gael, gan gynnwys adnoddau a ddyluniwyd ar gyfer defnydd unigol fel Skype, Zoom neu Google Hangouts. Mae’r platfformau hyn yn rhoi cyfleoedd i’r athro/athrawes ar-lein gael senarios addysgu tebyg i ystafell ddosbarth ar-lein, yn ogystal â chynnig cyfleoedd ar gyfer rhannu sgrin, gwaith grŵp, adolygu gan gymheiriaid a mwy. Mae platfformau o’r fath yn tueddu i fod yn fwyaf effeithiol wrth ddysgu’n gydamserol, er y gellir eu cyfuno’n rhwydd ag adnoddau fel fforymau trafod hefyd i ehangu’r effaith i amgylcheddau anghydamserol (Çakiroglu et al., 2016, Guo a Möllering, 2016, Kear et al., 2012). Gellir defnyddio’r adnoddau hyn i ail-greu amgylchedd seminar trwy gyfuno adnoddau trafod cydamserol â chyflwyniad neu fideo canolog gyda throslais.