Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.8 Ffrydiau RSS a chydgasglwyr

Mae RSS yn fath o ffrwd we sy’n caniatáu i ddefnyddwyr weld diweddariadau i gynnwys ar-lein, fel newyddion neu drafodaethau blog. Yn aml, defnyddir hyn i dderbyn diweddariadau o wefannau newyddion o ddiddordeb, ond fe all hefyd fod yn ddefnyddiol wrth addysgu ar-lein. Er enghraifft, gellir defnyddio ffrydiau RSS i danysgrifio i edafedd trafod, fel bod y dysgwr yn cael neges e-bost bob tro y bydd rhywun yn ymateb i edefyn penodol. A chithau’n athro/athrawes, fe allech ddefnyddio’r dechnoleg hon hefyd i ‘wthio’ negeseuon, ac anfon negeseuon atgoffa a phynciau trafod at ddysgwyr er mwyn iddynt eu derbyn mewn modd sy’n gweddu iddynt. Cydgasglwyr RSS yw’r enw ar adnoddau sy’n casglu’r ffrydiau RSS rydych wedi cofrestru i’w derbyn at ei gilydd mewn un man.