2 Personoli gydag adnoddau ar gyfer dysgu
Mae personoli yn golygu teilwra dulliau a deunyddiau addysgu (a’r amgylchedd y’u cyflwynir ynddo) i weddu i anghenion a dewisiadau ystod o ddysgwyr. Mae ganddo gysylltiad agos â hygyrchedd ar gyfer dysgwyr ag anableddau, a byddwn yn archwilio’r agwedd hon yn fanylach yn ystod Wythnos 6. Yr wythnos hon, fodd bynnag, rydym yn ystyried sut y gellir defnyddio technoleg i gynorthwyo’r ystod gyfan o ddysgwyr, beth bynnag fo’u hanghenion neu eu dewisiadau.
Fel arfer, mae addysgu ar-lein yn cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer personoli nag addysgu wyneb yn wyneb, yn syml oherwydd ei bod yn haws i ddysgwyr ddefnyddio’r dechnoleg sydd ar gael i addasu eu hamgylchedd dysgu i weddu i’w hanghenion. (Dychmygwch, er enghraifft, ba mor rhwydd yw gwanhau golau sgrin gyfrifiadur, o gymharu â thrafferthion gwanhau’r golau mewn amgylchedd ystafell ddosbarth heb achosi anghyfleustra i ddysgwyr eraill.)
Fel arfer, mae dysgu ar-lein anghydamserol yn cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer personoli na dysgu cydamserol oherwydd ei fod yn rhoi hyblygrwydd i’r dysgwyr o ran pryd a ble y byddant yn cael at y deunyddiau dysgu.
Mae’r ffordd ddelfrydol o gynyddu personoli i’r eithaf mewn addysgu ar-lein yn cynnwys dwy elfen:
- Dylunio deunyddiau addysgu a fydd yn bodloni ystod eang o anghenion a dewisiadau, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau a thechnegau addysgu.
- Rhoi’r rheolaeth yn nwylo pob dysgwr, gan ganiatáu iddo addasu’r deunyddiau i weddu i’r hyn sydd orau ganddo.