2.2 Rhoi rheolaeth i’r dysgwyr
Fe allai swnio fel proses gymhleth, ond mae sawl ffordd o roi rheolaeth i ddysgwyr nad ydynt yn gofyn am lawer o waith ychwanegol ar ran yr athro/athrawes.
Caniatewch ddewis o fformatau
Mae’n arfer safonol o ran hygyrchedd i ddarparu trawsgrifiadau ar gyfer deunydd sain neu glyweledol, darparu capsiynau ar gyfer deunydd fideo, a darparu testun amgen ar gyfer delweddau, ac yn y blaen. Fodd bynnag, mae’r fformatau amgen hyn yn aml yn cael eu defnyddio gan ystod ehangach o lawer o bobl na’r rhai y’u bwriadwyd ar eu cyfer yn wreiddiol, felly gwnewch yn siŵr fod yr holl opsiynau fformat hyn ar gael fel mater o drefn i’r holl ddysgwyr (Fidaldo a Thormann, 2017). Yn yr un modd, fe allai fod yn well gan rai dysgwyr gael eich adborth ar ffurf ffeil mp3 sain yn hytrach na thestun ysgrifenedig. Gall hyn fod yn gyflymach fyth i’w gynhyrchu nag anodi dogfen gydag adborth ar ffurf testun.
Caniatewch ddewis o nodweddion arddangos
Gall dysgwyr newid llawer o ddeunyddiau addysgu ar-lein, gan gynnwys tudalennau gwe, dogfennau a chyflwyniadau sioe sleidiau, yn rhwydd i weddu i’w hanghenion o ran ffont, maint y ffont, lliw a chyferbynnedd. Rhowch wybod i’ch dysgwyr sut gallant bersonoli eich deunyddiau, gan hyd yn oed gysylltu hyn â thudalennau canllawiau ar y rhyngrwyd yn disgrifio sut i ddefnyddio nodweddion gosodedig porwyr i gyflawni’r newidiadau hyn.