4 Delio â newid yn y sector technoleg
Mae newid yn bwnc sy’n cael ei drafod o hyd ym myd addysg, yn enwedig o ran technoleg.
Gan fod technoleg yn esblygu’n gyflym ac yn gyson, bydd rhai o’r adnoddau y darllenwch amdanynt heddiw wedi diflannu ymhen blwyddyn, tra bydd eraill yn cael eu cyflwyno. Fodd bynnag, y gobaith yw y bydd yr egwyddorion yn parhau ac y gallwch ystyried y cyd-destun sydd wedi newid gyda’r gallu i ddewis yr adnoddau a fydd yn eich helpu i gyflawni eich amcanion ar gyfer addysgu ar-lein.
Cyn gwneud defnydd helaeth o adnodd, neu ymrwymo i’w brynu, fe allech ddymuno ystyried agweddau fel p’un a oes ganddo sylfaen defnyddwyr sylweddol, neu beth yw model y datblygwr neu’r cyflenwr ar gyfer cynaliadwyedd, cymorth neu welliant.
Mae’r adran nesaf yn rhoi rhywfaint o arweiniad ar sut i wneud dewisiadau, hyd yn oed os nad yw’r adnoddau a grybwyllwyd gennym yn y cwrs hwn ar gael neu’n addas mwyach.