Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5 Sut i ddewis

Described image
Ffigur 8 Dewis yr offeryn cywir

Gall eich ffordd o ddewis pa dechnoleg i’w defnyddio ddibynnu ar nifer o ffactorau (Watson, 2011) fel:

  • Deilliannau dysgu bwriadedig y cwrs. Mae’n rhaid i’r dechnoleg wasanaethu’r deilliannau addysgegol, nid eu pennu.
  • Sefyllfa’r myfyrwyr (lleoliad, mynediad i’r rhyngrwyd, nifer y myfyrwyr yn y dosbarth, ac ati. Mae hyn yn adlewyrchu’r materion yr ymdriniwyd â nhw yn Adran 2 yr wythnos hon).
  • Y gweithgareddau neu ofynion technegol cynnwys y cwrs (e.e. cynnwys ffeiliau graffig mawr, adnoddau cydweithredol, nodweddion sgwrsio byw, mynediad at ddarlithwyr gwadd allanol, rhannu ffeiliau, trafodaethau, ac ati).
  • Hyd a lled profiad ar-lein blaenorol yr athro/athrawes. Er y gallech fod yn awyddus i ddefnyddio pob adnodd a nodwedd newydd wrth addysgu, mae’n well dechrau’n araf a chynyddu eich profiad a’ch hyder. Cyflwynwch un elfen, defnyddiwch hi’n briodol, gwerthuswch ei llwyddiant, ac yna addaswch eich dulliau addysgu lle y bo’r angen. Cyflwynwch fwy o elfennau’n araf pan fyddwch chi a/neu’r myfyrwyr yn fwy cyfforddus â’r dechnoleg. (Yn ystod Wythnos 8 y cwrs hwn, byddwch yn dysgu mwy am ‘ymchwil weithredu’ a gwerthuso’ch defnydd o dechnoleg wrth addysgu.)
  • Gofynion neu bolisïau’r sefydliad ynglŷn â defnyddio gwahanol dechnolegau ar-lein.
  • P’un a yw system rheoli dysgu (LMS) ganolog neu dechnoleg gwe agored, rad ac am ddim ar gael neu’n well.
  • Y gost, i chi’ch hun neu’ch sefydliad, yn uniongyrchol o ran costau prynu ac yn anuniongyrchol o ran faint o amser y bydd ei angen i ddod yn hyddysg wrth ei ddefnyddio.

Os hoffech ddarllen mwy am dechnoleg ac adnoddau ar gyfer dysgu ar-lein, mae JISC (2016) wedi creu adnodd sy’n cyfuno arweiniad ag astudiaethau achos, ac mae’n cynnwys rhestr wirio ddefnyddiol hefyd.