5.1 Cysylltu deilliannau dysgu, gweithgareddau ac adnoddau
Mae Prifysgol De Cymru Newydd Sydney (2017) yn darparu tabl defnyddiol iawn sy’n casglu ynghyd themâu cyffredin deilliannau dysgu, y mathau o weithgareddau a ddefnyddir yn aml gyda dysgwyr i gyflawni’r deilliannau hynny, a rhai technolegau ar-lein a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer pob un. Mae fersiwn olygedig o’r tabl hwn yn sail i Weithgaredd 5 isod.
Gweithgaredd 5 Amlygu technolegau y gallech eu defnyddio
Dechrau’r CwestiwnDarllenwch y tasgau gweithgaredd isod ac yna archwiliwch y tabl sy’n dilyn.
- Pa adnoddau ac arferion cysylltiedig a ddangosir yn y tabl ydych chi neu’ch dysgwyr (hyd y gwyddoch chi) yn eu defnyddio ar hyn o bryd mewn cyd-destun addysgu a/neu ddysgu? Treuliwch ychydig funudau yn unig yn llunio rhestr.
- Hyd y gwyddoch chi, y tu allan i’r amgylchedd addysgu, pa adnoddau y mae’ch dysgwyr yn eu defnyddio (neu ba rai y byddech yn tybio eu bod yn eu defnyddio) i fynegi eu hunain, archwilio a chwarae? Lluniwch restr, unwaith eto.
- Pa rai o’r adnoddau ar eich dwy restr uchod sy’n gymdeithasol? Rhowch seren wrth ymyl yr adnoddau y byddech yn eu disgrifio’n gymdeithasol.
Deilliannau dysgu a ddymunir (‘beth?’) | Sail resymegol (‘pam?’) | Gweithgareddau perthnasol (‘sut?’) | Adnoddau technolegol posibl |
Llythrennedd gwybodaeth. Ymarfer byd-eang. Llythrennedd digidol. Ymarfer moesegol. Paratoi ar gyfer llwyddo. |
Amlygiad i’r elfennau allanol canlynol, ymwybyddiaeth ohonynt, cyfraniad atynt:
Cyfeirnodi’n briodol. Adnoddau priodol unigolyn graddedig yn yr 21ain ganrif. Rheoli llwyth gwybodaeth. |
Gwerthuso amlddimensiwn. Rhannu ac adolygu adnoddau ar-lein. Cysylltu ag arbenigwyr/cymunedau allanol. Gwirio am lên-ladrad. Creu/cyfuno cyfryngau. Adrodd straeon digidol. Trafodaethau ar hawlfraint. Gweithgareddau sy’n berthnasol ac yn ddilys i’r ddisgyblaeth. Gweithgareddau ymgorfforedig ar gyfer priodweddau generig. Anogion cyd-destunol i werthuso ffynonellau. |
Ffrydiau RSS/cydgasglwyr. Blogiau. Atal llên-ladrad (e.e. Turnitin). Rhannu cyflwyniadau (e.e. SlideShare). Rhannu fideo (e.e. YouTube, Vimeo). Podledu. Platfformau dysgu ar-lein/o bell (e.e. Blackboard Collaborate, Adobe Connect). Sgrinledu. |
Dysgu hunangyfeiriedig. Ymarfer myfyriol. Dysgu ymgysylltiol. Cyd-ddysgu. Amgylchedd a phrofiad dysgu o ansawdd. |
Cyd-drafod dealltwriaeth. Adborth ar y cwrs. Myfyrio ar ddysgu. Ymarfer byd-eang. Cysondeb profiad. |
Dysgu seiliedig ar broblem/achos. Mynediad hyblyg at ddeunydd. Cynllunio a rheoli prosiectau. Hunanbrofion myfyrwyr. Yr athro/athrawes (a’r dechnoleg) fel hwylusydd dysgu. Dewis o foddau a gweithgareddau. Mynediad at dechnoleg (e.e. dyfeisiau symudol). Cod ymddygiad cytunedig. |
Wicis. Cwis/arolwg. Darlithiau wedi’u recordio. Rhannu fideo (e.e. YouTube, Vimeo). Podledu. Dysgu symudol (e.e. ffôn clyfar, tabled). Platfformau dysgu ar-lein/o bell (e.e. Blackboard Collaborate, Adobe Connect). |
Rhoi a derbyn adborth. | Safbwyntiau lluosog. Adborth ar berfformiad. |
Ysgrifennu ar y cyd. Cyd-drafod a chynllunio fel grŵp. Asesu gwaith tîm. Adolygu (e.e. gwaith grŵp). Cyhoeddi. Myfyrio. |
Wicis. Blogiau. Fforwm trafod. Adolygu gan gymheiriaid (e.e. trwy fforwm). Platfformau dysgu ar-lein/o bell (e.e. Blackboard Collaborate, Adobe Connect). Sgrinledu. |
Gweithio mewn timau. Ymarfer cydweithredol. |
Cyd-drafod dealltwriaeth. Safbwyntiau lluosog (ar gyfer yr athro/athrawes). Rheoli gwaith grŵp. Llythrennedd digidol. Cynwysoldeb. |
Ysgrifennu ar y cyd. Cyd-drafod a chynllunio fel grŵp. Cynllunio a rheoli prosiectau. Dysgu wedi’i seilio ar broblem/achos. Asesu cyfraniad y tîm. Prosiectau wedi’u seilio ar gyfryngau. Cefnogi amrywiaeth o arddulliau cyfathrebu. |
Wicis. Blogiau. Adolygu gan gymheiriaid (e.e. trwy fforwm). Google Docs. Platfformau dysgu ar-lein/o bell (e.e. Blackboard Collaborate, Adobe Connect). Trafodaeth wedi’i chymedroli. |
Adolygu’n feirniadol. Meddwl yn feirniadol. Dysgu’n annibynnol. |
Cyd-drafod dealltwriaeth. Safbwyntiau lluosog. Adborth. Ymarfer adolygu’n feirniadol. Ymarfer meddwl yn feirniadol. |
Myfyrio. Dadlau. Adolygu. Cynyddu gwybodaeth gymdeithasol. Adolygu deunydd ar-lein / gwneud sylwadau arno. Rhoi a derbyn adborth. |
Blogiau. Fforwm trafod. Platfformau dysgu ar-lein/o bell (e.e. Blackboard Collaborate, Adobe Connect). Efelychwyr seminar (e.e. VoiceThread). Rhannu fideo (e.e. YouTube, Vimeo). Podledu. Ffrydiau RSS/cydgasglwyr. Adolygu gan gymheiriaid (e.e. trwy fforwm). |
Cyfosod yr hyn a ddysgwyd. Cymhwyso’r hyn a ddysgwyd (ar lefel uchel). |
Gallu datrys problemau newydd. Cymhwyso gwybodaeth mewn ffordd integredig. |
Profi ymarfer ‘dilys’. Prosiect integreiddiol (gallai fod yn brosiect grŵp). Gweithgareddau dysgu wedi’u seilio ar broblem/achos. |
Llais dilys trwy fideo/sain. Platfformau dysgu ar-lein/o bell (e.e. Blackboard Collaborate, Adobe Connect). Efelychiadau e.e. profion rhithwir. Animeiddiadau. |
Cyfathrebu ysgrifenedig. | Cyd-drafod dealltwriaeth. Cyfrannu at weithgarwch, sgyrsiau, adnoddau allanol. Cyfeirnodi’n briodol. |
Myfyrio. Dadlau. Adolygu. Cyhoeddi. Gwirio am lên-ladrad. |
Blogiau. Fforwm trafod. Atal llên-ladrad (e.e. Turnitin). Rhannu cyflwyniadau (e.e. SlideShare). Negeseua (e.e. Twitter, Yammer). Ffrydiau RSS/cydgasglwyr. |
Cyfathrebu llafar. Sgiliau cyflwyno. Hyfedredd ieithyddol. |
Rhannu deunydd sain/fideo. Cyflwyno. Adrodd straeon digidol. Trafod ac adborth sain/fideo. |
Efelychwyr seminar (e.e. VoiceThread). Rhannu fideo (e.e. YouTube, Vimeo). Podledu. Rhannu cyflwyniadau (e.e. SlideShare). Platfformau dysgu ar-lein/o bell (e.e. Blackboard Collaborate, Adobe Connect). Sgrinledu. |
Gadael sylw
Dylai’r gweithgaredd hwn eich helpu i ddatblygu eich ymatebion o’r wythnos ddiwethaf ymhellach – dylech bellach allu cyfateb adnoddau posibl i’r tasgau rydych eisiau i’ch dysgwyr eu cyflawni ar-lein. Byddwch yn ychwanegu at y syniadau hyn yn ystod wythnosau diweddarach.
Gweithgaredd 6 Dewis adnoddau
Meddyliwch yn ôl i’r gweithgareddau a wnaed yn ystod y ddwy wythnos flaenorol, ac adolygwch eich nodiadau ynglŷn â’r hyn rydych eisiau ei ddarparu ar-lein a pha fathau o adnoddau y byddai arnoch eu hangen i gyflawni hyn. Pa adnoddau o’ch rhestrau sydd eisoes yn gysylltiedig â rhai o’ch amcanion a ddymunir wrth addysgu ar-lein? Pa amcanion nad oes adnodd a ddefnyddir eisoes yn gysylltiedig â nhw? A ydych chi wedi darganfod unrhyw beth yn neunyddiau’r wythnos hon a allai eich helpu i gyflawni’r amcanion hyn?
Bydd eich atebion yn cael eu cadw yn y cwrs, ac rydych yn debygol o’u hadolygu’n ddiweddarach.
Gadael sylw
Dylai’r gweithgaredd hwn eich helpu i ddatblygu eich ymatebion o wythnosau blaenorol ymhellach – dylech bellach allu cyfateb adnoddau posibl i’r tasgau rydych eisiau i’ch dysgwyr eu cyflawni ar-lein.