1.1 Rhannu syniadau
Gall athrawon ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol yn rhwydd i rannu syniadau, awgrymiadau a thriciau addysgu gydag eraill sydd mewn sefyllfa debyg. Gallwch ymuno â rhwydwaith ar-lein a ‘llechu’ yn unig (arsylwi heb gyfrannu), neu, pan fyddwch wedi ymgyfarwyddo â’r ffordd y mae pethau’n cael eu gwneud, fe allech wneud sylwadau ar syniadau pobl eraill, a’u defnyddio i gael ysbrydoliaeth eich hun. Yn y pen draw, fe allwch geisio barn pobl eraill am eich syniadau, a thrwy hynny gael adborth gwerthfawr a gwella’ch deunyddiau cyn iddynt fynd gerbron dysgwyr. Wrth ystyried partneriaethau, rhwydweithiau a chymunedau, mae hefyd yn ddoeth bod yn ymwybodol o’r ‘ffiniau’ posibl rhwng gwahanol fathau o bobl, gwahanol rolau, a hyd yn oed gwahanol raddfeydd cyflog (MacGillivray, 2017) – mae hyn yn rheswm da arall i ‘lechu’ yn gyntaf i asesu’r sefyllfa ym mhob rhwydwaith neu gymuned newydd yr ymunwch ag ef/â hi.