1.2 Datblygu partneriaethau a chymunedau
Pan fyddwch wedi sefydlu presenoldeb mewn rhwydwaith penodol, fe allech ddechrau gweld bod eich perthynas ag unigolion penodol yn werthfawr iawn. Fe allech ddechrau gofyn i unigolion penodol am gyngor, neu weld eich bod yn gwneud sylwadau’n fwy rhydd ar eu deunyddiau. Gellir sianelu’r datblygiadau hyn i ffurfio cymuned ymarfer (archwilir hyn ymhellach yn Adran 2 yr wythnos hon).