2 Cymunedau ymarfer a thywydd rhwydwaith
Pan fydd grwpiau o bobl yn dod at ei gilydd ar-lein yn gysylltiedig â phwnc penodol neu rôl swydd benodol, cyfeirir atynt yn aml fel cymunedau. Mae’r rhain yn fath o rwydwaith hefyd.
Gall cymunedau fod yn ganolog i helpu i ddatblygu’ch ymagwedd at addysgu ar-lein. Efallai eich bod yn addysgwr sy’n ceisio arweiniad ar sut i ddylunio fersiwn ar-lein o weithgaredd dysgu penodol, neu sydd eisiau cael gwybod pwy yw’r arbenigwyr ar addysgu ar-lein yn eich maes ymarfer. Beth bynnag fo’ch rheswm dros geisio cysylltu ag eraill yn eich maes, gall cymryd rhan mewn cymuned berthnasol fod yn werthfawr iawn, ac fe all arwain at ddatblygu eich sgiliau eich hun, yn ogystal â chaniatáu i chi gymryd rhan mewn trafodaethau ag arbenigwyr yn y maes ac, yn y pen draw, rhannu’r wybodaeth rydych wedi’i hennill gydag eraill a allai fod yn dechrau arni.