Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Cymunedau ymarfer

Mae cymunedau’n bodoli ar sawl ffurf. Pan wnaethom gyflwyno’r cysyniad o ‘gymunedau ymarfer’ yn Wythnos 2, nodwyd bod cymunedau’n gallu datblygu ble bynnag y ceir diddordeb cyffredin rhwng unigolion, er enghraifft proffesiwn a rennir. Dyma ddiffiniad mwyaf diweddar Wenger (sy’n Wenger-Trayner erbyn hyn):

‘Mae cymunedau ymarfer yn grwpiau o bobl sy’n rhannu pryder neu frwdfrydedd ynglŷn â rhywbeth maen nhw’n ei wneud, ac yn dysgu sut i’w wneud yn well wrth iddynt ryngweithio’n rheolaidd. Sylwer bod y diffiniad hwn yn caniatáu ar gyfer bwriadoldeb, ond nad yw’n rhagdybio hynny: gall y gymuned ddod at ei gilydd oherwydd dysgu neu fe all hynny ddigwydd yn ddamweiniol o ganlyniad i ryngweithiadau’r aelodau.’

(Wenger-Trayner a Wenger-Trayner, 2015)

Beth yw cymuned ymarfer a sut ffurf sydd arni? Mae’r ddau Wenger-Trayner yn amlygu tair nodwedd cymuned ymarfer:

  • Maes diddordeb a rennir (mae cymuned ymarfer yn fwy na chlwb o ffrindiau yn unig; mae aelodaeth yn awgrymu ymrwymiad i’r maes, ac felly cymhwysedd a rennir sy’n gwahaniaethu’r aelodau o bobl eraill).
  • Cymuned weithredol, sy’n rhannu ac yn archwilio’r maes (mae’r aelodau’n ymwneud â gweithgareddau a thrafodaethau ar y cyd, yn helpu ei gilydd, ac yn rhannu gwybodaeth. Maen nhw’n ffurfio perthnasoedd sy’n eu galluogi i ddysgu oddi wrth ei gilydd; mae eu henw da ymhlith ei gilydd yn bwysig iddynt. Ond nid yw aelodau cymuned ymarfer yn gweithio gyda’i gilydd bob dydd o reidrwydd).
  • Effaith ar ymarfer y rhai sy’n gysylltiedig (mae aelodau cymuned ymarfer yn ymarferwyr. Maen nhw’n datblygu stoc o adnoddau a rennir: profiadau, hanesion, ffyrdd o fynd i’r afael â phroblemau sy’n codi droeon – yn fyr, ymarfer a rennir. Mae hyn yn cymryd amser a rhyngweithio parhaus).

Maen nhw’n mynd ymlaen i ddweud mai’r ‘cyfuniad o’r tair elfen hyn sy’n cynrychioli cymuned ymarfer. A thrwy ddatblygu’r tair elfen hyn yn gyfochrog y gellir meithrin cymuned o’r fath’. Felly, dyna’r hyn y mae angen i chi ei gyflawni os ydych chi eisiau datblygu eich rhwydweithio i sefydlu cymuned ymarfer.

Fe allech weld bod y ddamcaniaeth hon yn cyd-fynd yn agos â’ch profiadau o gymunedau proffesiynol, neu fe allai fod yn well gennych ei haddasu mewn rhyw ffordd. Beth bynnag fo’ch safbwynt, mae’r ddamcaniaeth yn darparu fframwaith y gallwch ei ddefnyddio i gymharu a gwerthuso’r cymunedau y deuwch yn ymwybodol ohonynt.