Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Datblygu eich rhwydweithiau

Described image
Ffigur 6 Mae technoleg yn ein galluogi i ffurfio rhwydweithiau yn fyd-eang, nid yn unig gyda’r rheiny sydd o’n cwmpas

P’un a ydych chi eisiau ymuno â chymuned ehangach, cael gwybod am arfer gorau, yn ymddiddori yn y datblygiadau diweddaraf mewn addysg ar-lein, neu eisiau rhannu technegau a thechnolegau llwyddiannus, fe allai fod yn werthfawr i chi gysylltu â phobl o’r un anian trwy sefydlu a datblygu rhwydweithiau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ehangu eich rhwydweithiau cysylltiedig â gwaith, gellir gwneud hyn trwy ymuno â chymuned ymarfer sefydledig (Krutka et al., 2014). Chwiliwch y rhyngrwyd am gymunedau neu ‘grwpiau addysgu’ (Heinrich, 2015) yn ymwneud â’ch maes addysg penodol chi – er enghraifft, y lefel rydych yn ei haddysgu, y pwnc rydych yn ei addysgu, unrhyw amcanion penodol o ran dysgu ar-lein. Fe allai gymryd amser i chi ddod o hyd i ambell gymuned sy’n ymddangos yn addas i chi. Ymunwch ag un o’r rhain, neu sawl un ohonynt, a ‘llechu’ – arsylwch ba fath o drafodaethau sy’n digwydd a phenderfynwch a fyddent o fudd i chi gymryd rhan ynddynt yn y pen draw. Gallai un o’r cymunedau ymarfer hyn fod yn fan cychwyn delfrydol i sefydlu eich hunaniaeth ymchwil, eich sgiliau a’ch ymdeimlad o fod yn aelod o gymuned, neu ddatblygu’r nodweddion hyn ymhellach.

I’r rhai sy’n gweithio ym myd addysg, mae sawl gwasanaeth sy’n cynnig ffyrdd o ddod o hyd i academyddion a chysylltu â nhw. Un o’r rhai a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin yw’r safle rhwydweithio cymdeithasol LinkedIn.com [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , sy’n darparu ar gyfer pob math o weithwyr proffesiynol ac sy’n honni bod ‘y rhwydwaith proffesiynol mwyaf yn y byd ar y Rhyngrwyd’ (LinkedIn, 2017). I’r rhai sy’n gweithio ym maes addysg uwch, mae gwasanaethau rhwydweithio cymdeithasol mwy arbenigol sy’n benodol i academyddion ar gael hefyd, fel Academia.edu a ResearchGate.net, a sefydlwyd i helpu academyddion ac ymchwilwyr i ymgysylltu â’i gilydd trwy rannu cyhoeddiadau a hwyluso cyfathrebu. I’r rhai sy’n gweithio mewn amgylchedd ysgol, gallai EducatorsConnect.com fod yn lle da i ddechrau.

Ffordd arall ddefnyddiol o gysylltu â phobl o’r un anian yw defnyddio safle microflogio fel Twitter (Carpenter a Krutka, 2014) neu Weibo. Gall y rhain fod yn afonydd o wybodaeth sy’n llifo’n gyflym, y bydd llawer ohoni’n amherthnasol i chi, ac, fel croesi’r afon honno sy’n llifo’n gyflym, os na fyddwch yn camu iddi gyda chynllun clir, byddwch mewn perygl o gael eich ysgubo ymaith. Felly, wrth ystyried defnyddio safle microflogio i ddatblygu’ch rhwydwaith, dylech ddilyn y camau hyn i sicrhau eich bod yn cynyddu ei ddefnyddioldeb i chi i’r eithaf:

Cynyddu defnyddioldeb microflogio i’r eithaf

Bydd angen i chi amlygu’r tasgau rydych eisiau eu cyflawni:

  • casglu gwybodaeth am bwnc penodol:

lluniwch restr o eiriau allweddol neu hashnodau y gallech ddymuno chwilio amdanynt (gall hashnodau gynnwys ymadroddion ac acronymau, ond byth fylchau, er enghraifft #teachingonline, #OpenLearn neu #cccotc18.

  • dilyn a dysgu gan arbenigwyr ar bwnc penodol:

rhestrwch enwau’r arbenigwyr y dymunwch chwilio amdanynt.

  • creu cysylltiadau â phobl sydd mewn sefyllfa debyg i chi:

tasgwch syniadau ar gyfer sut i ddod o hyd i’r bobl hyn – sut byddwch yn chwilio amdanynt? Efallai y bydd angen i chi gyfuno rhai geiriau allweddol neu hashnodau yn un chwiliad, i’ch galluogi i hidlo allan gwybodaeth sy’n gysylltiedig ond nid yn union beth rydych yn chwilio amdano.

  • rhannu eich gwaith eich hun:

nodwch ba eitemau yn union yr hoffech eu rhannu, rhestrwch rai geiriau allweddol a hashnodau a allai ddisgrifio’ch gwaith, ac ymarferwch greu neges ficroflogio fer o’r hyd cywir sy’n disgrifio’ch gwaith yn gryno.

Mae tasgau eraill y gallech ddymuno eu cyflawni hefyd, wrth gwrs, fel dilyn sêr penodol neu ffynonellau gwybodaeth nad ydynt yn gysylltiedig â’ch amgylchedd gwaith.

Os ydych chi eisiau defnyddio Twitter, gallai’r cyfarwyddiadau hyn eich helpu i gynyddu’r buddion i’r eithaf. Os ydych chi eisiau defnyddio adnodd gwahanol, bydd egwyddorion y cyfarwyddiadau’n ddilys o hyd, ond bydd angen i chi newid y dull a’r adnoddau i weddu i’ch platfform.

  1. Crëwch gyfrif (ar Twitter, neu’r safle microflogio sy’n well gennych).
  2. Defnyddiwch eich cyfrif Twitter i gofrestru gyda Tweetdeck. Mae Tweetdeck yn ffordd dda iawn o wneud synnwyr o’r swm aruthrol o wybodaeth sy’n rhuthro heibio ar Twitter, ac yn eich helpu i drefnu’r wybodaeth y mae arnoch ei hangen mewn colofnau y gellir eu rheoli’n rhwydd.
  3. Defnyddiwch y swyddogaeth chwilio yn Tweetdeck i gynhyrchu colofnau newydd yn ymwneud â’ch geiriau allweddol neu hashnodau o ddiddordeb, neu chwilio am arbenigwyr a’u dilyn – bydd yr holl negeseuon trydar o’r cyfrifon rydych yn eu dilyn yn ymddangos yn eich colofn Hafan yn Tweetdeck, yn ôl trefn gronolegol.
  4. Os ydych yn chwilio am gymheiriaid, dewch o hyd i unigolion tebygol a’u dilyn yn gyntaf – gyda lwc, byddant yn eich dilyn chi yn ôl (ar Twitter, mae’n gwrtais dilyn unigolion sy’n eich dilyn chi). Pan fyddwch yn gyfarwydd â negeseuon trydar eich gilydd, gallech awgrymu ffurfio Rhestr (colofn yn eich Tweetdeck sy’n casglu ynghyd y negeseuon trydar gan eich unigolion dethol, ac y gall pobl eraill danysgrifio iddi).
  5. Os ydych eisiau rhannu’ch gwaith eich hun, dysgwch sut mae pobl eraill yn gwneud hynny, arsylwch sut maen nhw’n defnyddio eu negeseuon trydar, sut maen nhw’n gofyn am adborth neu i bobl eraill eu haildrydar. Bydd angen i chi fod wedi denu nifer dda o ddilynwyr cyn rhannu’ch gwaith, fel y bydd eu negeseuon haildrydar yn cynyddu eich cyrhaeddiad yn gyflymach.

Gweithgaredd 3 Sut gallwch rannu gwybodaeth ag eraill?

Timing: Caniatewch oddeutu 30 munud

Meddyliwch am unrhyw rwydweithiau a chymunedau rydych eisoes yn perthyn iddynt (ffurfiol ac anffurfiol). Sut mae’r cymunedau hyn yn rhannu gwybodaeth? Pa adnoddau maen nhw’n eu defnyddio? Sut gallent ddefnyddio sianeli neu gyfryngau eraill i wella’r llif hwnnw o wybodaeth? Sut gallech chi gynyddu eich cysylltiadau a’ch cyrhaeddiad? Sut gallai adnoddau fel Twitter, Weibo neu safleoedd rhwydweithio cymdeithasol eraill eich helpu?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Yn olaf, meddyliwch yn ôl i Weithgaredd 5 o’r wythnos ddiwethaf (dangosir eich nodiadau o’r gweithgaredd hwnnw yn y blwch isod), a datblygwch eich amcanion trwy ychwanegu nodiadau ynglŷn â sut gallech ddefnyddio rhwydweithiau a chymunedau i’ch helpu i gyflawni’ch amcanion addysgu ar-lein.

Dydych chi ddim wedi cwblhau'r bwlch yma. Defnyddiwch y ddolen ‘Lleoliad gwreiddiol' os rydych am gwneud nawr.

Unwaith eto, cadwch eich atebion mewn man diogel, oherwydd byddwch yn eu hadolygu.

Gadael sylw

Mae’r gweithgaredd hwn yn cymryd y cynlluniau ar gyfer addysgu ar-lein rydych wedi bod yn eu datblygu yn ystod wythnosau blaenorol y cwrs hwn, a’u gwau i mewn i’ch rôl fel athro/athrawes sy’n rhwydweithio. Dylai eich helpu i adnabod sut gallech ddefnyddio’r rhwydweithiau sydd ar gael i chi i lywio a gwella eich addysgu ar-lein.