Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Wythnos 4: Buddion rhwydweithiau cymorth a sut i’w datblygu

Cyflwyniad

Described image
Ffigur 1 Mae technoleg yn rhoi cyfle i ni gysylltu’n eang

Un o’r ffyrdd gorau o wella eich hyder a’ch gallu i addysgu ar-lein yw estyn allan i eraill. Gallai hyn fod trwy ffurfio rhwydwaith o gymheiriaid sydd oll ar gam tebyg ac sy’n gallu gweithio trwy syniadau addysgu gyda’i gilydd a chynnig cefnogaeth a phrofiadau a rennir, neu fe allai olygu cysylltu â phobl sydd eisoes wedi cyflawni’r amcan rydych chi’n anelu ato ac sy’n gallu rhoi cyngor defnyddiol. Un o brif fanteision defnyddio adnoddau ar-lein, ac yn enwedig adnoddau rhwydweithio cymdeithasol, i sefydlu’r cysylltiadau hyn yw eich bod yn gallu penderfynu beth rydych eisiau ei drafod, sut, pryd a chyda phwy. Gallwch fod yn oddefol a ‘llechu’, neu fod yn fwy gweithredol ac ymuno â rhannu neu drafod. Chi sy’n rheoli, a gallwch ddewis rhannu’r hyn rydych eisiau ei rannu yn unig, neu faint o amser rydych eisiau ei fuddsoddi.

Mae’r cysyniadau rydym wedi’u cyflwyno i’ch helpu i ddeall addysgu ar-lein, fel cyfathrebu cydamserol ac anghydamserol, yn berthnasol i’r amrywiaeth o blatfformau ac adnoddau a welwch chi yma hefyd. Mae adnoddau rhwydweithio cymdeithasol yn cynnwys byrddau trafod neu negeseuon, ond gallant hefyd ganolbwyntio ar ffyrdd o rannu a churadu gwybodaeth, fel gosod nodau tudalen cymdeithasol a microflogio. Gall llawer o’r hyn a wnewch chi pan fyddwch yn defnyddio’r rhyngrwyd gael ei rannu os ydych eisiau. Yn ei dro, dylech allu dod o hyd i bobl sydd â diddordebau tebyg i chi mewn defnyddio dysgu ar-lein, sy’n rhannu canfyddiadau neu adnoddau sy’n ddefnyddiol yn eu barn nhw.

Ar y cwrs yr wythnos hon, byddwch yn darganfod pa fanteision sy’n bosibl trwy ymestyn eich rhwydweithiau ar-lein, ac yn dechrau gweithio ar ddatblygu eich rhai eich hun.

Myfyrdodau athrawon

Yr wythnos hon, mae gennym glip arall gan Sarah S., yr ydych eisoes wedi cyfarfod â hi mewn wythnos flaenorol. Yma, mae’n myfyrio ar ei phrofiadau â rhwydweithiau ar-lein. Gallwch wylio'r fideo [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   hwn yn Saesneg. Neu fel arall, gallwch ddarllen y trawsgrifiad hwn yn Gymraeg.

Erbyn diwedd yr wythnos hon, fe ddylech allu:

  • deall buddion rhwydweithiau i’r athro/athrawes ar-lein
  • trafod cysyniadau cymunedau ymarfer a thywydd rhwydweithio
  • datblygu rhwydweithiau ar-lein defnyddiol i ychwanegu at eich ymarfer addysgu.