1 Adnoddau Addysgol Agored
Mae Adnoddau Addysgol Agored (OER) yn ddeunyddiau dysgu sydd ar gael yn rhydd i’r cyhoedd ac sydd wedi’u trwyddedu’n benodol i’w hailddefnyddio heb gost. Mae Sefydliad William a Flora Hewlett [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] wedi cefnogi llawer o fentrau OER. Dyma eu diffiniad o OER:
‘Mae Adnoddau Addysgol Agored yn ddeunyddiau addysgu, dysgu ac ymchwil mewn unrhyw gyfrwng – digidol neu fel arall – sy’n bodoli yn y parth cyhoeddus neu sydd wedi cael eu rhyddhau o dan drwydded agored sy’n caniatáu i eraill gael mynediad atynt, eu defnyddio, eu haddasu a’u hailddosbarthu heb gost yn ddigyfyngiad neu gyda rhai cyfyngiadau.’