Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Beth yw Adnoddau Addysgol Agored?

Gall y term gynnwys: gwerslyfrau, darlleniadau cwrs, a chynnwys dysgu arall; efelychiadau, gemau, a chymwysiadau dysgu eraill; meysydd llafur, cwisiau, ac adnoddau asesu; a bron unrhyw ddeunydd arall y gellir ei ddefnyddio at ddibenion addysgol. Yn nodweddiadol, mae OER yn cyfeirio at adnoddau electronig, gan gynnwys y rhai hynny mewn fformatau amlgyfrwng, ac mae deunyddiau o’r fath fel arfer yn cael eu rhyddhau o dan drwydded Creative Commons, neu drwydded debyg, sy’n cefnogi defnydd agored o’r cynnwys. Gall OER ddod o golegau a phrifysgolion, llyfrgelloedd, sefydliadau archifol, asiantaethau’r llywodraeth, sefydliadau masnachol fel cyhoeddwyr, neu gyfadran neu unigolion eraill sy’n datblygu adnoddau addysgol maent yn fodlon eu rhannu (Educause, 2010).

Efallai y cofiwch i ni sôn ychydig am OER yn ystod Wythnos 2 a sut mae hyn wedi esblygu’n rhannol o’r syniad y gallai addysgwyr gynhyrchu Gwrthrychau Dysgu y gellir eu Hailddefnyddio (RLO). Mae rhai OER yn canolbwyntio mwy ar rannu cynnwys addysgol gyda thrwydded, yn hytrach na pha mor gymwys yw’r deunyddiau i’w hailddefnyddio. Gellir ailddefnyddio rhai yn rhwydd, ond fe allai fod angen golygu eraill i’w gwneud yn addas i’w defnyddio gyda’ch dysgwyr. Efallai na fydd rhai OER yn bodloni gofynion hygyrchedd neu ryngweithredu (Baker, 2008), ac mae’n rhaid gwirio ansawdd a chywirdeb bob amser. Fodd bynnag, gall storfeydd a chwilotwyr eich helpu i ddod o hyd i OER da ar gyfer eich dibenion.

Gweithgaredd 1 Pam mae Adnoddau Addysgol Agored yn bwysig?

Timing: Caniatewch oddeutu 15 munud

Gwyliwch y fideo byr hwn ‘Cyflwyniad i OER II’ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] sy’n esbonio pam mae OER yn bwysig, a nodwch yr hyn y mae gan ddefnyddwyr ganiatâd i’w wneud gydag OER (gweler y rhan 1:13–1:24).

Gadael sylw

Mae OER yn werthfawr iawn i athrawon, ac yn enwedig y rhai hynny sy’n addysgu ar-lein. Lluniwyd y gweithgaredd hwn i ddangos pam y gallai OER fod yn bwysig i chi wrth fynd ati i ewch â’ch addysgu ar-lein.