2.3 Trwyddedu eich deunyddiau eich hun
Dechrau’r FfigurCyfle arall a gynigir gan OER yw ystyried rhannu rhai o’ch deunyddiau addysgu ar-lein eich hun i’w hailddefnyddio gan eraill. I rai pobl, bydd cyfyngiadau’n atal hyn – gallai eich cyflogwr ddal yr hawliau eiddo deallusol i bopeth rydych yn ei gynhyrchu ac efallai na fydd yn caniatáu i ddeunyddiau dysgu gael eu rhannu yn y modd hwn, neu fe allai hyd yn oed fod yn anghyfreithlon yn eich gwlad i lanlwytho i safleoedd fel YouTube. Fodd bynnag, fe all fod yn brofiad dysgu gwerthfawr o hyd i ddilyn y weithdrefn ar gyfer ychwanegu trwydded Creative Commons at eitem a grëwyd gennych, hyd yn oed os byddwch ond yn defnyddio delwedd wag i ymarfer y broses.
Mae gwefan Creative Commons [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn gwneud y broses mor syml â phosibl. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw ymateb i’r cwestiynau ynglŷn â ph’un a ydych eisiau caniatáu i eraill addasu neu, o bosibl, wneud elw o’ch gwaith, ac yna bydd eich trwydded yn cael ei chynhyrchu’n awtomatig. Os gallwch, agorwch yr adran ‘Helpwch eraill i’ch priodoli!’, sy’n ychwanegu metadata at eich eitem, gan roi gwybod i bobl eraill eich enw, teitl a dyddiad y gwaith, ac yn y blaen. Os hoffech gymhwyso’r drwydded i dudalen we, mae’r safle’n darparu côd y gallwch ei gopïo a’i ludio. Fel arall, de-gliciwch ar y ddelwedd o’r drwydded CC a gynhyrchwyd gan y safle, a’i harbed i’ch cyfrifiadur, ac yna gallwch ei lanlwytho wrth ymyl eich gwaith ym mha leoliad bynnag yr ydych wedi’i ddarparu.
Os byddwch yn rhannu’ch adnoddau i’w hailddefnyddio, fe allech ddymuno sicrhau eich bod chi’n cael eich priodoli fel yr awdur gwreiddiol bob amser er mwyn ymestyn eich proffil fel athro/athrawes ar-lein, neu ymestyn eich rhwydweithiau (fel y dysgoch yn ystod Wythnos 4 y cwrs hwn). Fe allech hyd yn oed ddarganfod ffyrdd o gydweithio ag eraill i fireinio eich gwaith, neu drafod eich adnoddau addysgu yn rhan o’r gymuned rannu.