1 Beth yw technoleg gynorthwyol?
Defnyddir y term ‘technoleg gynorthwyol’ yn y cwrs hwn i gyfeirio at unrhyw fath o dechnoleg sy’n:
- ei gwneud yn bosibl i unigolyn anabl ddefnyddio cyfrifiadur
- ei alluogi i ddefnyddio’r cyfrifiadur hwnnw’n fwy effeithlon
- ei alluogi i gyrchu gwybodaeth ar-lein, er enghraifft deunyddiau dysgu ar-lein.
Gall y term technoleg gynorthwyol, neu dechnoleg alluogi, gael ei ddefnyddio’n ehangach hefyd i gyfeirio at unrhyw fath o dechnoleg a ddefnyddir gan bobl anabl i’w galluogi i gyflawni tasg. Er enghraifft, mae diffiniad gan Doyle a Robson (2002) yn disgrifio technoleg gynorthwyol fel ‘cyfarpar a meddalwedd a ddefnyddir i gynnal neu wella galluoedd swyddogaethol unigolyn sydd ag anabledd’ (tud. 44).
Gall technolegau cynorthwyol hwyluso mynediad at ddeunydd addysgu trwy bontio’r ‘bwlch mynediad’ rhwng y deunydd addysgu a’r dysgwr. Efallai na fydd rhaid newid y deunyddiau os ydynt wedi cael eu dylunio’n briodol, ac os yw’r dysgwr yn gallu cael atynt gan ddefnyddio technolegau cynorthwyol addas. Yn aml, bydd angen ymarfer i ddefnyddio’r rhain yn fedrus, a dylid cadw hyn mewn cof. Er y gallai technolegau cynorthwyol olygu’r gwahaniaeth rhwng galluogi dysgwr i gael mynediad at ddeunyddiau dysgu neu fod hebddynt, efallai na fyddant yn chwalu pob rhwystr yn gyfan gwbl nac yn darparu’r un profiad y mae dysgwyr eraill yn ei gael.
Er mwyn i ddysgwyr ryngweithio â deunyddiau dysgu ar-lein, mae’n bosibl y bydd angen iddynt ddefnyddio mathau o dechnoleg gynorthwyol sy’n hwyluso:
- mynediad at gyfrifiadur a’r rhyngrwyd
- mynediad at destun a modd o’i drin
- mynediad at seiniau a delweddau a modd o’u trin.
Mae technoleg gynorthwyol yn cynnwys caledwedd fel sganwyr, bysellfyrddau wedi’u haddasu neu gymhorthion clyw, a meddalwedd fel meddalwedd testun i leferydd neu drefnu meddyliau. Yn aml, cysylltir technoleg gynorthwyol â systemau uwch-dechnoleg fel meddalwedd adnabod llais, ond fe all gynnwys datrysiadau technoleg isel fel teclynnau cynnal braich neu warchod arddwrn (addaswyd o Banes a Seale, 2002).