2.1 Sicrhau eglurder o ran llywio a golwg
Lliw
Peidiwch â defnyddio lliw yn unig i gyfleu ystyr. Er enghraifft, os oes dot gwyrdd wrth ymyl tasg wedi’i chwblhau yn eich cwrs, a dotiau coch wrth ymyl tasgau sydd heb eu cwblhau, bydd hynny’n achosi problem i ddysgwr lliwddall. Gallai newid hyn i symbolau tic gwyrdd a chroes goch ddatrys hyn.
Penawdau a strwythur
Strwythurwch benawdau gan ddefnyddio nodweddion arddull sy’n rhan o’r adnoddau rydych yn eu defnyddio. Mae’r rhain yn bodoli mewn Systemau Rheoli Dysgu, Word, PowerPoint, ac adnoddau cyffredin eraill ar gyfer creu cynnwys. Mae defnyddio arddulliau pennawd wrth greu dogfennau testun yn galluogi defnyddwyr rhaglen darllen sgrin a dysgwyr dyslecsig i lywio’r dogfennau hyn yn haws.
Sleidiau cyflwyno
Mae defnyddio’r dyluniadau sleid sy’n rhan o PowerPoint yn sicrhau bod yr holl gynnwys testun yn hygyrch i raglenni darllen sgrin. Fel arfer, mae testun sy’n cael ei arddangos yng ‘Ngolwg Amlinellol’ y cyflwyniad yn hygyrch i raglenni darllen sgrin, ond nid testun sy’n cael ei ychwanegu trwy flychau testun ychwanegol, fel arfer. Felly, mae’n arfer da copïo’r holl destun o bob sleid i’r maes Nodiadau (sy’n hygyrch i raglenni darllen sgrin) ac ychwanegu disgrifiadau o unrhyw elfennau gweledol o’r sleid i’r maes Nodiadau hefyd. Mae rhaglen darllen sgrin yn darllen sleidiau PowerPoint yn y drefn yr ychwanegwyd y cynnwys at y sleid, ac weithiau nid dyma’r drefn ddarllen gywir. Gellir newid y drefn ddarllen yn PowerPoint [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i ddatrys hyn.
Aliniad testun
Lle y bo’n bosibl, gwnewch yn siŵr fod testun wedi’i alinio i’r chwith (sy’n golygu bod yr ymyl ar y dde yn afreolaidd) yn hytrach na’i unioni (lle mae’r ymylon chwith a de yn unffurf). Os caiff testun ei alinio i’r chwith, bydd hynny’n sicrhau’r bylchau gorau rhwng llythrennau a geiriau o safbwynt darllenadwyedd. Fodd bynnag, os caiff testun ei unioni, gall bylchau afreolaidd rhwng llythrennau a geiriau leihau darllenadwyedd yn sylweddol, yn enwedig i rai pobl sydd â dyslecsia, sy’n gallu ‘llithro’ i fyny ac i lawr yn yr ‘afonydd o ofod gwyn’ sy’n ymddangos mewn testun wedi’i unioni.
PDFs
Ceisiwch osgoi defnyddio PDFs sy’n cynnwys testun sydd wedi’i arbed fel delwedd – ni fydd meddalwedd darllen sgrin yn gallu ei ddarllen. Gallwch brofi p’un a yw’r testun wedi’i arbed fel delwedd trwy geisio dethol ambell air gyda’r cyrchwr – os na allwch ddethol geiriau’n unigol, mae’n debygol mai delwedd yw’r testun . Felly, ni fydd meddalwedd darllen sgrin yn gallu canfod unrhyw eiriau, ac ni fydd yn darllen cynnwys y PDF. Gellir defnyddio meddalwedd Adnabod Nodau Optegol (OCR) i geisio tynnu testun o ddelwedd, ond anaml y mae’r broses yn gwbl gywir, felly bydd angen i chi archwilio allbwn y feddalwedd OCR a chywiro unrhyw wallau. Mae PDFs a gynhyrchwyd o ddogfennau Word neu PowerPoint sydd wedi’u strwythuro’n hygyrch (gweler ‘Penawdau a strwythur’ a ‘Sleidiau cyflwyno’ uchod) yn eithaf hygyrch hefyd, fel arfer (Devine et al., 2011). Mae Prifysgol Washington wedi cynhyrchu canllawiau defnyddiol ar greu PDFs hygyrch o ddogfennau Word.
Gosodiad a threfn
Defnyddiwch osodiadau a chynlluniau trefnu clir a chyson i gyflwyno cynnwys. I ddechrau, postiwch gyhoeddiadau rheolaidd ar sut i gychwyn arni, a rhowch gyfarwyddyd i’r myfyrwyr ar sut i lywio trwy’r cwrs. Cyfeiriwch y myfyrwyr at feysydd allweddol – adrannau cynnwys/trosolwg, amserlenni, canllawiau asesu. Trefnwch eich cwrs mewn ffordd linol fel bod myfyriwr yn gwybod os bydd yn llywio o’r dudalen gyntaf yng nghynnwys y cwrs i’r olaf, y bydd wedi ymdrin â holl ddeunyddiau, aseiniadau ac asesiadau gofynnol y cwrs.
Mewn dogfennau testun (Word, PDF, ac ati), mae angen gosod y cynnwys mewn ffordd linol iawn i fod yn hygyrch, felly peidiwch â defnyddio blychau testun (yn MS Word, Mewnosod > Blwch testun) na thablau i osod allan dogfen. Dylai tablau gael eu defnyddio ar gyfer data tablaidd yn unig.
Tablau
Os nad oes gan dablau nifer eithaf cyfartal o resi a cholofnau, dylid eu gosod ‘yn dal ac yn denau’ ac nid ‘yn fyr ac yn llydan’. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod rhaglenni darllen sgrin yn darllen tabl yn llinol, un rhes ar y tro.
Os oes gan eich tabl fwy na dwy golofn a mwy na deg rhes, mae’n arfer da ailadrodd penawdau’r colofnau bob 10-12 rhes, i atgoffa’r defnyddiwr rhaglen darllen sgrin o’r hyn y mae’n gwrando arno.
I weld ychydig mwy o enghreifftiau a chanllawiau, edrychwch ar y dudalen hon a gynhyrchwyd gan WebAIM, sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am ‘ddylunio tablau’n hygyrch’ ar gyfer tudalennau gwe.
Dolenni gwe
Defnyddiwch eiriau disgrifiadol ar gyfer testun dolenni i wneud pob dolen yn unigryw a’r cyrchfan yn glir. Felly, ceisiwch osgoi testun diystyr fel ‘Cliciwch yma’, neu sawl dolen o’r enw ‘Darllenwch fwy’. Y rheswm am hyn yw bod llawer o adnoddau rhaglen darllen sgrin yn cynnig opsiwn i’r defnyddiwr sganio’r holl ddolenni ar dudalen yn gyflym, fel bod y defnyddiwr yn gallu llywio i’r dudalen y mae’n ei cheisio yn gyflym – fodd bynnag, bydd yr ymarferoldeb hwn yn ddiwerth os oes gan yr holl ddolenni enwau generig neu os oes sawl un sydd â’r un enw.