2.4 Gwneud elfennau sy’n cael eu harddangos yn addasadwy
Gallai dysgwyr fod yn gweld eich cynnwys trwy ystod o wahanol ddyfeisiau, sgriniau neu borwyr. Fodd bynnag, mae rhai nodweddion cyffredin y gallwch eu rheoli sy’n helpu i sicrhau bod y deunyddiau’n cael eu harddangos ar ffurf sy’n hygyrch i gynulleidfa eang. Y cyntaf yw defnyddio cyfuniad hygyrch o osodiadau yn ddiofyn. Felly, mae’n arfer da defnyddio ffont ddarllenadwy (yn aml, argymhellir ffontiau sans serif ar gyfer deunyddiau argraffedig, ond gall rhai ffontiau serif fod yn addas ar-lein os nad ydynt yn rhedol neu’n afreolaidd) a maint ffont o 12 pwynt o leiaf mewn dogfennau testun (ac 20 pwynt ar sleidiau cyflwyno). Dylai cyfuniadau lliwiau ddarparu cyferbynnedd da (mae gwiriwr cyferbynnedd [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] lliwiau rhad ac am ddim ar gael sy’n eich helpu i asesu cyferbynnedd cyfuniadau lliwiau. Dylech anelu at gymhareb o 4.5 i 1 o leiaf drwyddo draw, ac os oes gennych lawer o destun, dylech anelu at gymhareb gyferbynnedd o 7 i 1).
Ceisiwch osgoi defnyddio elfennau sy’n fflachio neu’n symud oni bai bod modd i ddefnyddwyr eu hatal rhag symud. Hefyd, ceisiwch osgoi gosod testun dros ddelweddau cefndir – mae hyn yn lleihau darllenadwyedd yn sylweddol.
Yr ail elfen o sicrhau hygyrchedd wrth arddangos eich deunyddiau yw rhoi’r rheolaeth i’r dysgwr. Os byddwch yn darparu dogfennau a grëwyd yn hygyrch, bydd y dysgwr yn gallu cymhwyso ei ddewisiadau ei hun o ran ffont, lliw ac yn y blaen. Os ydych yn cyflwyno deunyddiau i’w gweld mewn porwr gwe, darparwch ddolenni i ganllawiau ar sut i ddefnyddio’ch porwr i fodloni rhai o’ch anghenion a’ch dewisiadau hygyrchedd (megis yr adnoddau hyn ar gyfer Firefox, Chrome, a Safari). Os ydych yn defnyddio platfform o fath arall i gyflwyno’ch addysgu ar-lein (gwegynadledda, system rheoli dysgu (LMS), ac ati), ceisiwch ganfod pa nodweddion hygyrchedd sydd ganddo, a rhowch ganllawiau i’ch dysgwyr ar sut i ddod o hyd iddynt a’u defnyddio.