Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Wythnos 6: Cefnogi dyswwyr â gwahanol anghenion – hygyrchedd mewn addysgu ar-lein

Cyflwyniad

Described image
Ffigur 1 Hygyrchedd

Mae’n bwysig sicrhau bod eich deunyddiau dysgu’n addas i ystod mor eang o ddysgwyr â phosibl, p’un a yw’r deunyddiau hynny’n rhai a grëwyd gennych chi, neu’n adnoddau rydych chi’n dod o hyd iddynt ar-lein a’u hailddefnyddio. Mae hygyrchedd, defnyddioldeb, cynhwysiant a dyluniad cyffredinol i gyd yn dermau cyffredin ar gyfer sicrhau bod modd i’ch deunyddiau dysgu gael eu defnyddio gan ystod eang o ddarpar ddysgwyr, gan gynnwys y rhai hynny ag anableddau a allai fod yn defnyddio technolegau cynorthwyol. At ddibenion deunyddiau yr wythnos hon, defnyddiwn ‘hygyrchedd’ fel term llaw-fer. Sylwer nad yw hyn o reidrwydd yn argymell bod ‘un ateb i bawb’ yn addas ar gyfer pob gwrthrych dysgu, ac fe all fod yn berffaith briodol darparu deunyddiau neu weithgareddau amgen mewn rhai sefyllfaoedd, cyhyd â bod yr amcanion dysgu cyffredinol yn cael eu bodloni ar gyfer pob dysgwr. Fodd bynnag, gall ymdrech a dealltwriaeth yn y maes hwn arbed llawer mwy o ymdrech ac anawsterau yn ddiweddarach, a gwneud y profiad dysgu’n well i bawb.

I ddeall rhai themâu hygyrchedd allweddol, byddwch yn dechrau trwy ddysgu am dechnolegau cynorthwyol a’r effaith maen nhw’n ei chael ar y ffordd y mae dysgwyr yn rhyngweithio â deunyddiau dysgu. Yna, byddwch yn dysgu sut i wneud y deunyddiau a ddefnyddiwch yn fwy hygyrch, ac, yn olaf, rhoddir rhywfaint o arweiniad i chi ar fformatau amgen.

Myfyrdodau athrawon

Rydym ni’n ymuno â Sarah H. eto’r wythnos hon ar gyfer ei phrofiadau yn ystyried hygyrchedd. Mae’n canolbwyntio ar ffyrdd o weithio gyda PowerPoint i ddefnyddio’i lawn botensial ar gyfer addysgu cynhwysol. Gallwch wylio'r fideo [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   hon yn Saesneg. Neu fel arall, gallwch ddarllen y trawsgrifiad hon yn Gymraeg.

Erbyn diwedd yr wythnos hon, fe ddylech allu

  • diffinio technoleg gynorthwyol a rhestru amrywiaeth o enghreifftiau
  • deall sut i wneud y rhan fwyaf o’ch deunyddiau addysgu ar-lein yn hygyrch
  • asesu hygyrchedd Adnoddau Addysgol Agored (OER)
  • deall pa fformatau amgen a allai fod yn angenrheidiol wrth addysgu ar-lein.