2 Adborth a myfyrio
Yn aml, mae adborth gan fyfyrwyr yn cael ei gasglu mewn lleoliadau addysg ar-lein ac wyneb yn wyneb. Wrth ddysgu ar-lein, gallwch wreiddio arolwg adborth yn y system rheoli dysgu. Fe allech hefyd ddymuno defnyddio fforymau neu negeseuon e-bost i ddarparu modd gwahanol o gael adborth, neu i ofyn i fyfyrwyr lenwi’ch arolwg.