Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Ceisio adborth

Gall yr adborth hwn fod yn werthfawr ac yn dreiddgar, ond cofiwch y gallai rhan fach ohono fod yn annefnyddiol neu hyd yn oed yn ddifrïol. Astudiodd Tucker (2014) gyfran yr adborth difrïol neu amhroffesiynol mewn un brifysgol yn Awstralia, a daeth i’r casgliad mai dim ond 0.04% o’r sylwadau yn y sampl y gellid ystyried eu bod yn ddifrïol neu’n amhroffesiynol. Dylai’r rhan fwyaf o adborth gynnig gwybodaeth, o leiaf. Y gobaith yw y gall rhywfaint ohono gael ei droi’n gamau gweithredu. Fe allai fod yn werth esbonio ar ddechrau’r arolwg fod yr adborth mwyaf gwerthfawr yn uniongyrchol, yn onest ac yn benodol, gan feirniadu gweithredoedd neu ddeunyddiau yn unig ac nid nodweddion personol.