4 Adolygu, addasu, ailadrodd!
Gan grynhoi’r hyn rydych wedi’i ddysgu yr wythnos hon, dyma ganllaw i’ch helpu i feddwl wrth i chi weithio ar eich gwerthusiadau eich hun o addysgu ar-lein:
- Gan ddefnyddio’ch ymatebion i Weithgaredd 2 yn gynharach yr wythnos hon, nodwch ba agwedd(au) yn union ar eich addysgu ar-lein yr ydych eisiau eu gwerthuso.
- Nodwch o ble neu gan bwy y byddwch yn cael y wybodaeth y mae arnoch ei hangen.
- Os byddwch yn defnyddio dadansoddeg, pa fathau o ddata sy’n arbennig o berthnasol i’ch amcanion? Sut gallwch chi gael gafael ar y rhain, neu sicrhau eu bod yn cael eu cofnodi? Sut byddwch chi’n defnyddio’r data i ddod i gasgliadau?
- Os byddwch yn defnyddio adborth, pa ddull(iau) y byddwch yn ei/eu (d)defnyddio? Fforymau cydamserol neu anghydamserol ar gyfer adborth yn benodol? Holiaduron penodol? Arsylwi gan gymheiriaid?
- Os byddwch yn defnyddio holiadur, defnyddiwch eich ymatebion o Weithgaredd 2 yn gynharach yr wythnos hon i lunio rhai cwestiynau y gallech ddymuno eu defnyddio.
- Gan ddefnyddio’ch ymatebion o Weithgaredd 1 yn gynharach yr wythnos hon, amlygwch unrhyw bobl eraill berthnasol y gallech ddymuno gweithio gyda nhw i greu cymuned o amgylch eich gweithgarwch gwerthuso.
- Yn ogystal â dadansoddi’r adborth a gafwyd ynglŷn â’ch addysgu ar-lein, adolygwch werth y data a gawsoch. A fyddai unrhyw addasiadau i’r broses werthuso’n darparu data mwy gwerthfawr?