Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.2 Coelcerth o Gwangos

Yn ystod y cyfnod pan fu Comisiwn Richard yn cynnal ei adolygiad, daeth cyhoeddiad annisgwyl gan Brif Weinidog Llafur Cymru, Rhodri Morgan ar 14 Gorffennaf 2004 a newidiodd y ffordd y cafodd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru eu rhedeg yn sylweddol. Mewn datganiad i ACau, cyhoeddodd gynlluniau i ‘ddiddymu’r wladwriaeth cwangos’. Dywedodd:

The time has come to move forward the devolution project onwards and upwards. We intend to incorporate the major executive quangos directly under the Assembly Government.

(WalesOnline, 2004)

Fel rhan o’r newid hwn, gwelwyd swyddogaethau a staff nifer o gyrff gwasanaethau cyhoeddus – gan gynnwys Awdurdod Datblygu Cymru, Bwrdd Croeso Cymru a’r awdurdod cwricwlwm a chymwysterau – yn dod yn rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru, gan ddod yn atebol i’r Gweinidogion.

Yn ogystal â rhoi mwy o bŵer i Lywodraeth Cynulliad Cymru, fel y dywedodd Rhodri Morgan ar y pryd, bwriad y newid hwn oedd cynyddu atebolrwydd.