5.4 Refferendwm ar bwerau deddfu
Yn ôl Golygydd y Guardian yn San Steffan, Michael White, roedd trydydd refferendwm Cymru ar ddatganoli yn ‘strikingly low-key’. Gydag ond wyth wythnos tan y gyfres nesaf o etholiadau’r Cynulliad, yr etholiadau hynny oedd ar feddyliau’r pleidiau gwleidyddol i raddau helaeth, a mater i Ie dros Gymru a Chymru Wir (yr ymgyrch ‘na’) oedd ymgyrchu. Penderfynodd Cymru Wir beidio â cheisio statws swyddogol na chyllid, felly gwrthodwyd statws swyddogol a’r cyllid cysylltiedig i Ie dros Gymru.
Roedd y dadleuon yn gyfarwydd. Honnodd Ie dros Gymru y byddai pwerau deddfu sylfaenol yn gwneud y Cynulliad yn fwy effeithlon ac atebol i bobl Cymru. Dadleuodd Cymru Wir nad oedd ACau yn gymwys ar gyfer y dasg ac y dylai ASau ymwneud â'r broses o hyd.
Gweithgaredd 4 Refferendwm (2011)
Cynhaliwyd y refferendwm ar 3 Mawrth 2011. Edrychwch ar y deunyddiau ymgyrchu hyn ar gyfer y ddwy ochr.
Sut fyddech chi'n pleidleisio? Gwnewch eich penderfyniad, yna datgelwch y drafodaeth isod i ddarganfod y canlyniadau.
Gadael sylw
A ydych yn dymuno i’r Cynulliad allu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt? | ||
---|---|---|
Ymateb | Pleidleisiau | % |
Ydw | 517,132 | 63.49% |
Nac ydw | 297,380 | 36.51% |
Crynodeb:
Cafodd trefniadau ariannol a phwerau'r Cynulliad a gyflwynwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 eu hadolygu yn ystod y trydydd Cynulliad, ac ystyriwyd eu bod yn ddiffygiol. Cynhaliwyd refferendwm ar b'un a ddylid rhoi pwerau deddfu sylfaenol i'r Cynulliad, a basiwyd. Ni welwyd unrhyw ddiwygio o ran y drefn gyllido o hyd.