6.1 Atgyfeiriadau at y Goruchaf Lys
Efallai fod y Cynulliad wedi cael pwerau deddfu sylfaenol, ond nid dyna ddiwedd ar y mater. Roedd nifer o feysydd amwys yn Neddf Llywodraeth Cymru (2006). Mae nifer o Ddeddfau i Gymru a basiwyd gan y Cynulliad wedi diweddu yn y Goruchaf Lys ar ôl i Lywodraeth y DU gwestiynu cymhwysedd deddfwriaethol Bae Caerdydd.
Mae'r Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) – deddfwriaeth frys a basiwyd gan ACau yn sgil diddymu'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yn 2013 – yn enghraifft dda. Mae amaethyddiaeth yn fater wedi'i ddatganoli i raddau helaeth, ond mae hawliau gweithwyr yn fater a gadwyd yn ôl. Barn y Goruchaf Lys oedd bod y ddeddfwriaeth honno o fewn cymhwysedd y Cynulliad am nad oedd 'cyflogau amaethyddol' y tu hwnt i bwerau'r Cynulliad yn benodol.
Gwelwyd atgyfeiriadau fel arall hefyd pan atgyfeiriodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Undebau Llafur Llywodraeth y DU at y Goruchaf Lys yn 2017, gan honni ei bod yn mynd yn groes i feysydd cymhwysedd datganoledig.
Ysgogodd yr anghydfodau hyn alwadau pellach am 'fodel cadw pwerau' lle roedd y meysydd hynny a gadwyd yn ôl ar gyfer Llywodraeth y DU wedi'u nodi'n benodol, a lle roedd popeth arall o fewn cymhwysedd Cynulliad Cymru. Cafodd ei roi ar waith gan Lywodraeth y DU yn y pen draw yn Neddf Cymru (2017).