Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.3 Dau Fil i Gymru

Roedd dwy ran i ymateb Llywodraeth y DU hefyd

Yn gyntaf, cyflwynodd Fil Cymru 2014, a roddodd rywfaint o gymhwysedd i'r Cynulliad mewn perthynas â threthi. Cafodd treth stamp a threth dirlenwi eu datganoli. Hefyd, rhoddodd y Bil hwn gyfle i'r Cynulliad osod cyfraddau treth incwm, yn amodol ar refferendwm. Gwnaeth rywfaint o newidiadau i'r trefniadau etholiadol hefyd

Yn ail, cyflwynodd Fil Cymru 2016, a oedd yn llawer mwy dadleuol, gyda'r bwriad o ail-lunio'r setliad datganoli yn sylweddol.

Cyn cyhoeddi'r Bil Cymru 2016, bu cyfnod o ymgysylltu â rhanddeiliaid gwleidyddol allweddol, y cyfeiriodd Llywodraeth y DU ato fel proses Dydd Gŵyl Dewi. Pan ddaeth y cyfnod hwn i ben ar 27 Chwefror 2015, gwnaeth David Cameron a Nick Clegg gyhoeddiad ar y cyd yn Stadiwm y Mileniwm, gan gyhoeddi Cytundeb Dydd Gŵyl Dewi. Cyhoeddwyd Pwerau at bwrpas: tuag at setliad datganoli sy’n para i Gymru, ar yr un diwrnod.

Er mwyn rhoi cytundeb Dydd Gŵyl Dewi ar waith, cyhoeddwyd Bil Cymru 2016. Cafodd ei feirniadu’n helaeth gan Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin, Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad, Canolfan Llywodraethiant Cymru ac Uned y Cyfansoddiad. Y consensws oedd nad oedd y Bil yn gwella’r setliad. Yn ei adroddiad, dywedodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad:

Mae cymhlethdod y Bil drafft wedi bod yn thema gyson yn y dystiolaeth a gawsom. Mae'r profion angenrheidrwydd yn cymylu ffiniau cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ac yn hytrach na gwneud y setliad yn gliriach, mae'n rhwystro dealltwriaeth. Mae'r darpariaethau sy'n ymwneud â chydsyniadau Gweinidogol yn golygu fod y setliad yn llawer mwy cyfyng. Mae hynny nid yn unig yn ychwanegu at y cymhlethdod, ond hefyd yn cynnal y lefelau o eithrio a datganoli afreolaidd o fewn y DU.

(Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2015, t.44)

Cymaint oedd anfodlonrwydd Llywodraeth Cymru â'r drafft fel y penderfynodd gymryd y cam anarferol i gyhoeddi bil Llywodraeth a Chyfraith Cymru drafft amgen. Wrth lansio'r bil am y tro cyntaf, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones fod ganddo'r potensial i osgoi blynyddoedd o anghydfod cyfansoddiadol. Dadleuodd y byddai ei gynigion yn diogelu'r setliad datganoli ymhellach ar gyfer y dyfodol.

Mewn ymateb i hynny, oedodd Llywodraeth DU y ddeddfwriaeth, gan wneud diwygiadau sylweddol.

Pan gafodd ei phasio yn y pen draw, gwnaeth Deddf Cymru 2017 y newidiadau canlynol i'r setliad datganoli:

  • Newid i fodel cadw pwerau
  • Gwneud y Cynulliad yn sefydliad parhaol a allai ailenwi ei hun yn Senedd
  • Cydnabod corff ar wahân o gyfreithiau i Gymru
  • Rheolaeth ddatganoledig dros nifer o feysydd, gan gynnwys etholiadau'r Cynulliad, rhai pwerau o ran ynni, trafnidiaeth a chyfle cyfartal.

Er iddi gael ei phasio yn y pen draw yn 2017, cafodd y Ddeddf hon i Gymru ei beirniadu'n helaeth. Pleidleisiodd Plaid Cymru yn ei herbyn ar y sail ei bod yn cipio pwerau yn ôl oddi wrth y Cynulliad. Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales, dywedodd yr ysgolhaig cyfansoddiadol Richard Rawlings fod y Bil yn dameidiog iawn, a bod bargeinion, manylion technegol a chynllwynion yn y cefndir wedi tanseilio ymgais Comisiwn Silk i amlinellu cyfres o egwyddorion ar gyfer datganoli yng Nghymru (BBC Cymru Fyw, 2017).

  • Ydych chi'n credu bod Deddf Cymru 2017 wedi darparu'r setliad datganoli clir, parhaus a chadarn a ragwelodd Stephen Crabb yn ei araith, neu a ydych yn cytuno â'r academydd Richard Rawlings ei fod yn cynnwys elfennau fydd yn 'hunan ddinistriol?

  • Er i Ddeddf Cymru 2017 unioni rhai o'r agweddau mwyaf trafferthus ar setliad datganoli Cymru, yn enwedig y newid i fodel rhoi pwerau, mae nifer o faterion yn bodoli o hyd. Mae'r rhain yn cynnwys diffyg fframwaith ffurfiol ar gyfer cyfathrebu rhynglywodraethol a phryderon parhaus ynghylch system gyfreithiol a chyllid i Gymru.