4.3 Comisiynwyr Cymru
Mae Comisiynwyr Cymru yn cynnig swyddogaeth graffu bellach ar Lywodraeth Cymru. Er eu bod wedi'u hariannu gan y llywodraeth, caiff penodiadau Comisiynwyr eu cymeradwyo gan y Senedd.
- Y Comisiynydd Pobl Hŷn
- Y Comisiynydd Plant
- Comisiynydd y Gymraeg
- Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
Mae pob unigolyn yn gyfrifol am gynrychioli buddiannau grŵp penodol yng Nghymru a chynghori cyrff cyhoeddus ynghylch eu dyletswyddau statudol. Mae ganddynt swyddfeydd a staff i'w cynorthwyo i gyflawni'r ddyletswydd hon. Maent yn aml yn ymgyngoreion statudol ar ddeddfwriaeth Gymreig.
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i benodi Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol – 'gweinidog y dyfodol' – sy'n sicrhau bod llunwyr polisïau yn ystyried effaith eu penderfyniadau ar bobl nad ydynt wedi'u geni eto.
Cymru hefyd oedd y wlad gyntaf yn y DU i benodi Comisiynydd Plant i ddiogelu a hyrwyddo hawliau plant yng Nghymru. Ategir y gwaith hwn gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP).
-
Yn eich barn chi, pa wahaniaeth y byddai cyfryngau mwy gweithredol yng Nghymru yn ei wneud? Pam mae 'craffu fforensig' yn bwysig?
-
Yn hanesyddol, rôl y cyfryngau fu hysbysu'r cyhoedd, beirniadu'r pwerus ac ysgogi trafodaeth. Mae prinder cyfryngau annibynnol cryf yng Nghymru. Er bod BBC Cymru Wales yn cynnig gohebu cynhwysfawr diduedd ar wleidyddiaeth yng Nghymru, nid oes unrhyw allbynnau mawr, wedi'u hariannu'n dda, sydd â'r pŵer i gynnal ymchwiliadau, 'torri' straeon mawr na chynnal cyfweliadau trylwyr a manwl rheolaidd â gwleidyddion. Fel y cyfryw, nid yw gwleidyddion yng Nghymru yn wynebu'r un math o graffu ag sy'n gyffredin mewn llywodraethau eraill. Nid yw hynny'n golygu bod gwleidyddion yng Nghymru yn ymddwyn yn amhriodol, ond mae'n golygu nad yw'r diffygion yn eu polisïau a'u hymddygiad bob amser yn hysbys i bawb.