Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.2 Gwahaniaethau gwleidyddol

Ar gyfer yr ychydig flynyddoedd cyntaf o ddatganoli, nid oedd fawr o bwys i'r ffaith nad oedd cyfansoddiad ysgrifenedig na dulliau diffiniedig ar gyfer cydberthnasau rhynglywodraethol. Gweinyddiaethau Llafur neu fwyafrif Llafur oedd y llywodraethau yng Nghaerdydd, Llundain a Chaeredin, ac roedd y sianeli cefn a grëwyd gan y system hon yn aml yn esmwytho'r ffordd.

Fodd bynnag, cododd anawsterau yn sgil ethol llywodraeth SNP yn yr Alban yn 2007 a llywodraeth glymblaid dan arweiniad y Ceidwadwyr yn San Steffan yn 2010, ac erbyn 2020, roedd y sefyllfa'n argyfyngus.

Daeth y rhwyg mewn cydberthnasau yn arbennig o amlwg yn ystod y broses o basio deddfwriaeth yn ymwneud â Brexit. Roedd ymdeimlad ymhlith y gwledydd datganoledig fod Llywodraeth y DU yn bwrw ati â phenderfyniadau a oedd yn effeithio ar fuddiannau Cymru a'r Alban – yn aml mewn meysydd cymhwysedd datganoledig – heb ymgynghori'n ddigonol.

Cymhlethwyd y ddynameg hon pan bleidleisiodd yr Alban dros aros a Chymru dros adael yn y refferendwm ar aelodaeth o'r UE yn 2016. Serch hynny, yn aml mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn cynnal trafodaethau anffurfiol, ac maent wedi gwneud datganiadau ar y cyd lle mae'n fuddiol iddynt wneud hynny.

Mae safbwyntiau croes ynghylch sut y gellid datrys y broblem. Dadleuodd y Llywodraeth SNP, dan arweiniad Nicola Sturgeon, fod y gydberthynas bellach wedi chwalu y tu hwnt i adfer ac y byddai annibyniaeth yn yr Alban yn sicrhau cynrychiolaeth well i bobl yr Alban. Roedd Mark Drakeford yn fwy cymodlon, gan hyrwyddo confensiwn cyfansoddiadol newydd.

  • Yn eich barn chi, ai maint y digwyddiadau rhwng 2016 a 2021 a roddodd y setliad datganoli dan straen sylweddol? Neu ai'r ffaith bod pleidiau gwahanol mewn grym yng Nghaerdydd, Caeredin a Llundain a arweiniodd at wrthdaro rhwng y llywodraethau? A fyddai cyfansoddiad ysgrifenedig yn helpu?

  • Roedd y rhyngweithio rhwng ffactorau yn ystod y cyfnod hwn yn gymhleth iawn. Pe bai plaid lywodraethu gyffredin mewn grym mewn dau le neu fwy, gallai hyn fod wedi datrys rhai o'r problemau, ond oherwydd cyfansoddiad gwahanol llywodraethau'r gwledydd gwahanol, gwelwyd blaenoriaethau gwleidyddol croes na allai system wleidyddol simsan y DU ymdopi â nhw. Gellid dadlau y byddai cyfansoddiad ysgrifenedig yn gwella'r sefyllfa hon gan y byddai'n egluro cydberthnasau. Fodd bynnag, mae'n annhebygol iawn y byddai Llywodraeth SNP yn cyfrannu at y gwaith o'i ddrafftio.