7 Crynodeb Adran 3
Rydych wedi cyrraedd diwedd y drydedd adran, sef adran olaf y cwrs hwn. Cyn symud ymlaen i'r casgliad, cymerwch eiliad i ystyried yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu am bleidleiswyr Cymru, materion hunaniaeth a sut mae'r rhain yn chwarae rhan yn y ddadl ehangach am ddatganoli yng Nghymru:
- Mae pleidleiswyr yn aml yn mynegi barn wrthgyferbyniol am y broses wleidyddol yng Nghymru, er enghraifft, gan gredu nad yw'n cael fawr o effaith ystyrlon ar eu bywydau ac ar yr un pryd yn credu y dylid datganoli pwerau pellach.
- Efallai bod rhywfaint o ddifaterwch tuag at broses wleidyddol Cymru yn cael ei ddangos gan y nifer isel o bleidleiswyr.
- Nid yw dadleuon ynghylch gwleidyddiaeth Cymru yn gyffredin, gyda deialog barhaus ymhlith pleidleiswyr Cymru ynghylch yr angen i ddiddymu'r sefydliadau datganoledig neu wella eu pŵer ymhellach hyd at bwynt annibyniaeth Cymru.