Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer
Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Ein prosiect: Tyst i Niwed, Dal i Gyfrif

Gwella profiadau cleifion, teuluoedd, cydweithwyr tystion o drefniadau Addasrwydd i Ymarfer: astudiaeth dulliau cymysg

Nod ein hymchwil oedd deall profiad pobl o fod yn dyst yn y broses Addasrwydd i Ymarfer. Fe wnaethom ganolbwyntio ar achosion lle mae’r tyst neu aelod o’i deulu wedi marw neu’n credu bod rhywun wedi ei niweidio’n ddifrifol. Gwnaethom archwilio’r canlynol:

  • effaith cymryd rhan mewn ymchwiliadau a gwrandawiadau Addasrwydd i Ymarfer ar yr unigolyn, y teulu a chyd-dystion
  • pa gefnogaeth maen nhw’n ei chael gan y rheoleiddiwr, a pha gefnogaeth yr hoffen nhw ei chael.

I bobl sydd wedi profi niwed, gall gorfod cofio a disgrifio digwyddiadau trawmatig achosi trallod mawr neu eu hail-drawmateiddio. Fodd bynnag, mae safbwynt yr unigolyn sy’n codi pryderon yn aml yn hanfodol i’r broses Addasrwydd i Ymarfer.

Gwnaethom gwblhau prosiect ymchwil gyda mewnbwn gan aelodau o'r cyhoedd, rheoleiddwyr, gweithwyr proffesiynol, cyflogwyr, cyfreithwyr a'r cyhoedd. Nod y prosiect oedd dysgu am brofiadau’r cyhoedd o’r broses Addasrwydd i Ymarfer a’r hyn y gall rheoleiddwyr ei wneud i’w gwella.

Ariannwyd yr astudiaeth/prosiect hwn gan raglen Iechyd, Diogelwch a Datblygiad Ymchwil NIHR (NIHR131322). Barn yr awdur(on) sy'n cael ei mynegi ac nid yw'r NIHR [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] na'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol o reidrwydd yn rhannu'r un farn.