Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer
Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Pam mae pobl yn mynegi pryder?

Diogelu’r cyhoedd yw prif nod rheoleiddwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Drwy wneud hynny, eu nod yw cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd. Mae’n un o’r meini prawf a ddefnyddir i benderfynu pan nad yw cofrestrai – sy’n cofrestru gyda chorff rheoleiddio – bellach yn peri risg i’r cyhoedd. Mae ein canfyddiadau’n dangos bod pobl sy’n defnyddio gwasanaethau’n mynegi pryderon am ymarferwyr i sicrhau bod y wers yn cael ei dysgu ac nad yw ymarferwyr yn ailadrodd y camgymeriadau sy’n peryglu’r cyhoedd. Ynghyd â hyn, mae gweithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer sy'n gefnogol ac yn ymatebol i anghenion y cyhoedd yn hybu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol.  

Rôl rheoleiddwyr iechyd a gofal cymdeithasol yw diogelu’r cyhoedd drwy sicrhau bod y rheini sydd ar y gofrestr yn gymwys a chynnal safonau’r proffesiwn. I gyflawni hyn, rhaid i reoleiddwyr ddarparu gwybodaeth hygyrch a hawdd ei darllen, er mwyn i’r cyhoedd ddeall sut mae rhoi gwybod am bryder. Dylai hefyd gynnwys sut byddant yn cael eu cefnogi drwy gydol y broses Addasrwydd i Ymarfer. Mae ein canfyddiadau’n awgrymu, pan fydd cynnwys sy’n berthnasol i Addasrwydd i Ymarfer yn hawdd i’r rhan fwyaf o oedolion ei ddeall, bod pobl yn teimlo’n fwy cyfforddus yn mynegi pryderon ac yn dilyn y weithdrefn. 

Gwelsom fod mynegi pryderon a dilyn y weithdrefn Addasrwydd i Ymarfer wedi achosi trawma sylweddol pellach i rai pobl, a dylid osgoi hynny i raddau helaeth. Mae'n bosibl cael ymarfer sy’n seiliedig ar drawma, sy’n cyfeirio at wasanaethau ar sail yr wybodaeth y gall trawma niweidio pobl a’u gallu i feithrin cysylltiadau dibynadwy â darparwyr cymdeithasol a gofal iechyd. Byddai’r math hwn o ddull yn rhoi’r cymorth sydd ei angen ar atgyfeirwyr, gan ryddhau rheoleiddwyr i gyflawni eu prif ddyletswydd o ddiogelu’r cyhoedd ar yr un pryd â datblygu a chynnal eu diogelwch a’u llesiant. 

Roedd pobl yn cael eu cymell i fynd drwy’r broses Addasrwydd i Ymarfer i atal unrhyw un arall rhag mynd drwy’r hyn a wnaethant hwy. Dywedodd un cyfranogwr: ‘Doeddwn i ddim eisiau i unigolyn arall ddioddef yr un trallod a thrawma ag yr oeddwn i wedi’i ddioddef.’ Yn yr un modd, tynnodd cyfranogwr arall sylw at y canlynol:

Dyma’r dyfyniad: ‘...fy ffordd i o feddwl oedd, does dim modd gwneud unrhyw beth i mi, ond fyddwn i ddim eisiau i neb arall fynd drwy hyn. Felly, roedd yn ymwneud ag atal niwed i eraill yn y dyfodol.’

Teimlai rhai cyfranogwyr fod Addasrwydd i Ymarfer yn ymwneud â galluogi ymarferwyr i fyfyrio ar eu hymddygiad a newid eu hymarfer.

Dywedodd rhai cyfranogwyr eu bod yn anfodlon â chanlyniad eu hatgyfeiriad, ond eu bod eisiau sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’u pryderon. Yn ôl cyfranogwr mewn cyfweliad:

Dyma’r dyfyniad: ‘... Fydd e ddim yn mynd i'r llys nac yn mynd i'r carchar na dim byd ... Allwch chi gredu hynny? Does dim ots gen i erbyn hyn, ond rydw i eisiau i’r cyhoedd wybod. Dyna beth dwi eisiau ar hyn o bryd ...’

Gobeithio bod hyn wedi rhoi syniad i chi o pam mae rhai pobl yn codi pryderon gyda rheoleiddwyr. Roedd y drafodaeth hon yn canolbwyntio ar y boblogaeth gyffredinol yn hytrach na gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, dyma’r cwestiwn, a all gweithwyr proffesiynol roi gwybod i reoleiddwyr am bryderon?

Yr ateb yw y gallant, ac yn wir mae'n rhaid iddynt wneud hynny gan fod gwerthoedd ymarferwyr yn cynnwys diogelu diogelwch a lles pobl wrth ddarparu gwasanaethau o safon ar yr un pryd. Er y gall fod yn anodd iddynt, gwelsom fod ymarferwyr yn codi pryderon am eu cydweithwyr. 

Er bod gweithdrefnau chwythu’r chwiban yn cael eu rhoi ar waith i amddiffyn ymarferwyr sy’n mynegi pryderon am eu cydweithwyr, yn ein hymchwil gwelsom fod rhai ymarferwyr yn dal i’w chael yn anodd oherwydd y gwahaniaeth mewn pŵer a’r diwylliant gwaith. Mae chwythu’r chwiban er budd y cyhoedd oherwydd ei fod yn diogelu pobl yn gyfreithiol i godi pryderon sy’n effeithio ar y cyhoedd neu weithwyr mewn sefydliad. Ystyrir bod codi pryderon drwy lwybrau priodol yn bwysig o ran diogelu’r cyhoedd a phobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol (y Cyngor Meddygol Cyffredinol, 2014; y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, 2015).

Yn ôl meddyg iau dan hyfforddiant a oedd yn poeni am ymddygiad uwch gydweithiwr:

Dyma’r testun: ‘... bu digwyddiad yr oeddwn yn anhapus iawn yn ei gylch gydag uwch feddyg pan oeddwn i'n hyfforddi. Ac ar y pryd roeddwn i eisiau dweud wrth rywun. Ac roeddwn i’n sylweddoli, pe bawn i’n gwneud hynny, fy nealltwriaeth i oedd y byddai gwneud hynny’n gwneud popeth yn waeth. Felly, yn lle hynny, fe wnes i ei herio’n uniongyrchol. Ac fe wnaeth fy helpu i ddeall nad oeddwn i’n meddwl y gallwn i ofyn i unrhyw un am help. Oherwydd bod ganddo hawl i ymddwyn fel hyn, roedd yn teimlo bod ganddo hawl i ymddwyn fel y gwnaeth a gallwn weld ei fod yn cael cefnogaeth dda iawn i deimlo’r hawl honno.’

Tynnodd yr un ymarferydd sylw hefyd at resymau pam eu bod yn meddwl bod camymddwyn a chamymarfer yn bodoli yn eu man gwaith:

Dyma’r dyfyniad: ‘Roeddwn i'n teimlo'n ynysig iawn. Roeddwn i’n feddyg dan hyfforddiant ac rydyn ni’n mynd o le i le. Ac felly roedd cyfarwyddwr fy rhaglen hyfforddi mewn dinas arall. Roeddwn i’n byw yn yr ardal leol gyda fy nheulu ond doedd gen i ddim ffrindiau, doedd gen i ddim cydweithwyr roeddwn i’n eu hadnabod yn dda. Roedd yr amgylchedd gwaith yn greulon iawn. Byddwn yn aml yn gweld cydweithwyr yn crio mewn coridor yn rhywle; yr uwch feddygon yn sgrechian ar ei gilydd pan fyddant yn anghytuno. Ac felly’r teimlad oedd bod pobl yn dioddef pethau ofnadwy ac nid oedd yn ymddangos bod neb eisiau i hynny newid. Pan wnes i herio’r unigolyn am ei ymddygiad gwael, ei agwedd ef oedd, pam na ddylwn i? Ac roeddwn i’n gallu gweld bod hynny’n wir, roedd yn edrych yn debyg nad oedd neb yn mynd i’w rwystro.’

Ar ben hynny, pan fydd ymarferydd yn codi pryder am ei gydweithwyr, nid yw bob amser yn cael cefnogaeth ei gyflogwr. Dywedodd un cyfranogwr ymchwil:

Dyma’r dyfyniad: ... Ysgrifennais bopeth a ddywedodd wrtha i ac ysgrifennais unrhyw beth y gallwn ei weld yn y negeseuon testun, yr oedd rhai ohonynt yn eithaf anghwrtais. A beth bynnag, chefais i ddim cefnogaeth gan y brif swyddfa, gan [employer name]. Wnaethon nhw erioed fy ffonio a dweud ydych chi'n iawn gyda hyn? Y cyfan a gefais i oedd, dyma pryd rydych chi'n mynd, dyma'r dyddiad rydych chi'n mynd a dyma beth mae'n ei olygu a sut mae cyrraedd yno a hyn a'r llall. Ond doedd dim cefnogaeth, fel wyt ti'n teimlo'n iawn am hyn neu unrhyw beth felly...’