2 Pam nad yw pobl yn mynegi pryder, a pham mae hyn yn bwysig?
Hyd yma, rydych chi wedi dysgu am rai o'r rhesymau pam mae'r cyhoedd yn mynegi pryder i reoleiddwyr. Byddwch nawr yn darllen ein canfyddiadau ynghylch pam nad yw rhai pobl yn fodlon rhoi gwybod am bryderon a chanlyniadau peidio â chodi materion gyda rheoleiddwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
Gweithgaredd: myfyrio
Gwyliwch yr animeiddiad isod a phenderfynu a ydych chi'n cytuno â'r rhesymau a roddwyd gan bobl dros godi pryder ai peidio.
Os hoffech chi, gwnewch nodiadau yn y blwch testun isod. Dim ond chi fydd yn gallu gweld eich nodiadau.

Transcript
SIARADWR 1: O weithwyr cymdeithasol i nyrsys i swyddogion amddiffyn plant, mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol ym maes gofal, amddiffyn ac eiriolaeth ar gyfer amrywiaeth eang o gymunedau.
SIARADWR 2: Ond yn y sefyllfaoedd hyn, bydd adegau pan fydd gweithwyr proffesiynol yn methu cyrraedd y safonau a ddisgwylir ganddynt.
SIARADWR 1: Mewn achosion o'r fath, gall aelodau o'r cyhoedd godi pryderon amdanynt, a fydd yn arwain at ymchwiliad a gwrandawiad addasrwydd i ymarfer.
SIARADWR 2: Mae'r Brifysgol Agored yn arwain tîm gyda phedair prifysgol arall a wnaeth ymchwil fanwl i ddeall profiadau pobl a gododd y pryderon hyn.
SIARADWR 1: Un o'r prif feysydd roedden nhw wedi ymchwilio iddo oedd y rhesymau pam mae pobl yn mynegi pryderon i reoleiddwyr a pham nad ydyn nhw'n gwneud hynny.
SIARADWR 2: Felly gadewch i ni gael syniad o'r hyn maen nhw wedi'i ddarganfod. Yn gyntaf oll, pam mae pobl yn mynegi pryderon?
SIARADWR 3: Roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr na fyddai neb yn mynd drwy'r un trallod a thrawma ag y gwnes i yn sgil fy nhriniaeth. Roeddwn i eisiau i'r cyhoedd wybod, yn y gobaith na fydd hyn byth yn digwydd eto.
SIARADWR 4: Roeddwn i eisiau wynebu'r sawl a wnaeth hyn i mi. Dydw i ddim eisiau dial na difetha eu gyrfa. Roeddwn i eisiau iddyn nhw fyfyrio, meddwl o ddifrif am yr hyn roedden nhw wedi'i wneud.
SIARADWR 2: Felly, i grynhoi, roedd rhai o'r prif resymau pam y cododd pobl bryderon yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o faterion i'w hatal rhag digwydd eto--
SIARADWR 1: --a gwneud i'r sawl dan sylw fyfyrio ar yr hyn yr oedd wedi'i wneud a pham ei fod yn anghywir.
SIARADWR 2: Felly, pam nad yw pobl yn mynegi pryderon? Beth sy'n eu hatal rhag dechrau dilyn y broses tyst i niwed hyd yn oed?
SIARADWR 5: Doeddwn i ddim yn gwybod ble i droi. Fe wnes i edrych, ond roedd yn anodd iawn. Dydw i ddim yn meddwl bod digon o bobl yn gwybod am y Cyngor Deintyddol Cyffredinol nac unrhyw un o'r rheoleiddwyr eraill. Dydyn nhw ddim yn amlwg iawn. Mae angen iddyn nhw hysbysebu mwy.
SIARADWR 6: Roeddwn i'n teimlo'n gaeth. Roedd gen i ormod o gywilydd sôn amdano. Roedd yn rhywbeth mor frawychus ac anodd ei brofi fel ei bod yn teimlo'n haws cadw'n dawel. Roeddwn i hefyd wedi clywed y gallai cwyno am feddyg teulu ei gwneud hi'n anodd dod o hyd i un arall. Roedd hynny'n fy mhoeni go iawn.
SIARADWR 2: Felly, i grynhoi, un o'r prif resymau pam na wnaeth pobl fynegi pryderon oedd bod y broses yn rhy anodd. Roedd hi'n anodd dod o hyd i le i roi gwybod am broblem. A hyd yn oed os gwnaethoch chi, roedd y broses yn llafurus, gyda llawer o dudalennau i'w darllen a dim cymorth ar gael.
SIARADWR 1: Roedd pobl hefyd yn teimlo nad oeddent yn gallu dweud eu dweud oherwydd ei bod yn anodd profi'r problemau. Roeddent yn teimlo bod y camymddygiad ei hun wedi gwneud iddynt deimlo’n ynysig.
SIARADWR 2: Ofnai rhai pobl hefyd am y canlyniadau negyddol sy'n gysylltiedig â mynegi pryder--ei chael hi’n anodd dod o hyd i ddeintydd newydd, er enghraifft.
[DRAMATIC MUSIC]
Trafodaeth
Datgelodd yr astudiaeth hon nifer o resymau pam mae pobl yn fodlon mynegi pryderon ac yn amharod i wneud hynny; mae rhai pobl yn credu na fydd mynegi pryder yn cael unrhyw effaith. Mae rhai pobl yn ceisio delio â'u pryderon yn lleol gyda'r sefydliad yn hytrach na chyflwyno pryder ffurfiol gyda rheoleiddwyr o dan y weithdrefn Addasrwydd i Ymarfer, gan fod sawl ffordd y gall pobl fynegi pryder.
Pan fydd rhai pobl yn dymuno cyflwyno pryderon i reoleiddwyr, mae'r broses gymhleth yn eu hatal, ac efallai y byddant yn teimlo ei bod yn anodd pan fydd ymddygiad ymarferwyr eisoes yn peri gofid iddynt. Un peth sy'n sicr, er mwyn gwneud pobl yn gyfforddus yn mynegi pryderon, mae angen i wybodaeth fod ar gael yn hawdd ac yn hygyrch.
Ac ystyried bod y rhan fwyaf o ddinasyddion y DU yn chwilio am wybodaeth ar-lein a bod y rhan fwyaf o'r wybodaeth ar gael yno, roedd cyfranogwyr yr ymchwil yn credu bod sut mae gwybodaeth yn cael ei chyflwyno ar-lein yn hanfodol; gall gormod o wybodaeth lethu unigolion, ac ni fydd rhy ychydig yn rhoi digon o wybodaeth iddynt wneud penderfyniadau gwybodus.
Gweithgaredd: myfyrio
Meddyliwch am y cwestiwn canlynol a gwnewch nodiadau yn y blwch testun isod:
- Pe bai angen i chi fynegi pryder wrth reoleiddiwr a chanfod bod cyfyngiad ar nifer y geiriau y gallwch eu hysgrifennu neu na allwch lwytho dogfennau sy'n bodoli eisoes i fyny, a fyddech chi'n dal i lenwi'r ffurflen a'i chyflwyno? Nodwch y rhesymau pam eich bod wedi ymateb fel hyn.
Trafodaeth
Gwelsom y gallai cyfyngiadau fel hyn atal pobl rhag lleisio pryderon. Yn yr un modd, maen nhw'n mynd yn flin ac yn colli diddordeb os ydyn nhw'n cael deunydd anodd a jargonllyd. Fe wnaethom nodi nad yw'r rhan fwyaf o'r wybodaeth ar-lein sy'n gysylltiedig ag Addasrwydd i Ymarfer 13 o reoleiddwyr yn hygyrch i'r rheini sydd â sgiliau llythrennedd cyfyngedig. Os nad yw'r cyhoedd yn mynegi pryderon wrth reoleiddwyr, bydd newid arferion gwael ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn amhosibl.
Gwelsom hefyd nad yw rhai pobl eisiau siarad am faterion sy'n anodd eu profi oherwydd yr arfer gwael, sydd ynddo'i hun yn cael effaith ynysig:

