3 Crynodeb o Sesiwn 1
Mae'r sesiwn hon wedi rhoi trosolwg o pam mae pobl yn mynegi pryder. Mae wedi dangos bod llawer o resymau pam mae pobl yn mynegi pryderon. Hefyd, maen nhw'n ei chael hi'n anodd mynegi pryderon sy'n cynnwys ymarferwyr sy'n gydweithwyr. Mae un pwynt yn glir: mae mynegi pryder yn bwysig oherwydd ei fod yn ddull ar gyfer newid arferion iechyd a gofal cymdeithasol.
Gweithgaredd: myfyrio
Meddyliwch am yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu yn y sesiwn hon a sut mae wedi newid eich gwybodaeth am brosesau Addasrwydd i Ymarfer.
Ar ôl cwblhau’r sesiwn hon, i ba raddau ydych chi’n cytuno â’r datganiad hwn: 'Mae fy ngwybodaeth am y rhesymau pam mae pobl yn mynegi pryderon wedi gwella'?
Sut byddwch chi'n defnyddio'r wybodaeth rydych chi wedi'i dysgu yn y sesiwn hon? Gwnewch nodiadau yn y gwerslyfr isod.
Gallwch yn awr fynd i Sesiwn 2 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .