Sesiwn 2: Sut brofiad mae pobl yn ei gael o’r broses mynegi pryder?
Cyflwyniad
Mae rheoleiddwyr yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi bod pobl sy'n derbyn gwasanaethau yn gallu mynegi pryderon am ymarfer gweithiwr proffesiynol. Mae hyn er mwyn sicrhau ansawdd a diogelwch gofal (y Cyngor Meddygol Cyffredinol, 2014, 2019; y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, 2015). Cytunir yn gyffredinol bod cwynion a phryderon yn bwysig ar gyfer nodi diffygion a chaniatáu i wersi gael eu dysgu.
Mae ymchwil cyn ein hymchwil ni am fynegi pryder i reoleiddiwr yn canolbwyntio'n bennaf ar ddyletswydd gyfreithiol a moesegol cofrestreion i adrodd am gydweithwyr. Gall hyn fod drwy chwythu'r chwiban (i sicrhau ansawdd a diogelwch gofal) (y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, 2015; Biggar et al., 2020). Mae chwythu’r chwiban er budd y cyhoedd oherwydd ei fod yn diogelu pobl yn gyfreithiol i godi pryderon sy’n effeithio ar y cyhoedd neu weithwyr mewn sefydliad. Ystyrir bod codi pryderon drwy lwybrau priodol yn bwysig o ran diogelu’r cyhoedd a phobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau ansawdd a diogelwch gofal (y Cyngor Meddygol Cyffredinol, 2014; y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, 2015). Roedd ein hymchwil yn edrych ar sut a pham mae'r cyhoedd yn codi pryderon a'u profiadau o'r broses.
Mae'n bwysig bod pobl sydd am fynegi pryder yn gallu cael gafael ar wybodaeth ac yn gallu gwneud hyn yn hawdd (Y Cyngor Meddygol Cyffredinol, 2019). Bydd y sesiwn hon yn siarad am ein hymchwil yng nghynnwys gwefannau a dogfennau cyhoeddus rheoleiddwyr y DU. Mae'n cynnwys asesiad o ba mor hawdd yw mynegi pryder gan ddefnyddio gwefannau rheoleiddwyr. Mae hefyd yn cynnwys pa wybodaeth oedd ar gael pan fydd unigolyn yn dymuno mynegi pryder wrth reoleiddiwr.