Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer
Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Pa wybodaeth sydd ar gael am fynegi pryder?

Mae gwybodaeth am fynegi pryder ar gael fel arfer ar wefannau'r rheoleiddwyr. Roedd gan ein cyfranogwyr deimladau cymysg ynghylch pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon.

Dywedodd Tyst Cleifion y Cyngor Osteopathig Cyffredinol:

Dyma’r dyfyniad: 'Fe wnes i ddod o hyd i'r wefan ac ysgrifennais e-bost ac edrychais ar y math o godau ymddygiad a'r hyn a ddisgwylir fel ymddygiad proffesiynol ac fe wnes i sgrinlun o'r hyn roeddwn i'n meddwl nad oedd yn cael ei ddilyn ac felly anfonais e-bost i ddechrau.'

Fodd bynnag, sylwodd cyfranogwyr ein hymchwil nad oeddent bob amser yn gwybod â phwy y dylent fynegi eu pryderon.

Dywedodd Tyst Cyhoeddus ac Aelod o'r Teulu y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth:

Dyma’r dyfyniad: 'Doeddwn i ddim yn meddwl bod cartref gofal yn dod o dan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Y bobl roeddwn i'n gweithio gyda nhw ddywedodd hynny wrtha i. Felly doeddwn i ddim yn gwybod bod sefydliad lle gallech chi gwyno am bobl.’

Buom yn edrych ar y dogfennau a oedd ar gael a pha wybodaeth a oedd wedi'i chynnwys ynddynt, gan gynnwys fformatau gwahanol.