Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer
Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Mathau a fformat gwybodaeth

Gwyddom fod pobl yn defnyddio gwefannau i ddod o hyd i wybodaeth, naill ai ar dudalennau gwe neu mewn dogfennau y gellir eu llwytho i lawr, ond nid yw'r rhain bob amser yn hygyrch iawn:

Dyma’r dyfyniad cyntaf: 'Roedd yr wybodaeth ar wefan Social Work England yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol.' Dyma’r ail ddyfyniad: 'Rwy'n darllen yr holl ganllawiau cyhoeddus sydd ar gael ar y rhyngrwyd drwy'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a’r canllawiau ymarfer nyrsio.' Dyma’r trydydd dyfyniad: 'Wrth chwilio ar y rhyngrwyd cefais fy arwain at y Cyngor Optegol Cyffredinol.'

Dywedodd Tyst Cleifion y Cyngor Optegol Cyffredinol hefyd:

Dyma’r dyfyniad: Ac yna'r wefan ei hun, mae'r wybodaeth maen nhw'n ei rhoi yn glir ac yn benodol, ond nid yw wedi'i geirio mewn ffordd sy'n hygyrch iawn. Ond wn i ddim a os oes cyfyngiadau cyfreithiol o ran gwneud hynny. Mae'n anodd iawn peidio â dechrau gwneud pethau'n amwys on'd yw hi, pan fyddwch chi'n dechrau gwyro oddi wrth iaith dechnegol.’

Ond roedd pobl hefyd yn gwerthfawrogi siarad â rhywun go iawn:

Dyma’r dyfyniad cyntaf: 'Cefais negeseuon e-bost a galwadau ffôn gyda rhywun a wnaeth i mi deimlo'n fwy cyfforddus ac a oedd yn rhoi cyfle i mi ofyn cwestiynau.' Dyma’r ail ddyfyniad: 'Roedd hi'n ddefnyddiol siarad â rhywun dros y ffôn.' Dyma’r trydydd dyfyniad: 'Cefais yr holl wybodaeth yr oedd ei hangen arnaf yn dilyn trafodaeth gydag aelod o staff a oedd yn barod iawn i helpu.'

Roedd y rhan fwyaf o'r wybodaeth a ddarparwyd ar ffurf ysgrifenedig, ond dywedodd pob unigolyn yn ein grwpiau ffocws yr hoffent gael yr wybodaeth mewn fformatau gwahanol fel siartiau llif syml, delweddau a fideos ynghyd â dogfennau i'w llwytho i lawr yn seiliedig ar ddewisiadau unigol. Yn ôl un cyfranogwr:

Dyma’r dyfyniad: Mae angen gwefan arnoch y gallwch lwytho dogfennau i lawr sy'n cynnwys yr holl wybodaeth oherwydd nid yw llawer o bobl yn ei chael hi’n hawdd darllen deunydd ar-lein am ba reswm bynnag ac maen nhw'n hoffi cael rhywbeth yn eu dwylo er mwyn iddyn nhw allu cyfeirio ato ar unrhyw adeg, pan fyddan nhw’n eistedd ac ati. Mae gwybodeg gyda ... rhai pobl yn ei gweld edrych ar luniau a'u didoli'n ddefnyddiol ... mae fideos yn syniad da hefyd gan fod llawer o bfiguobl yn mynd ar YouTube i gael cyfarwyddiadau...’

Ystyriwyd bod fideos yn apelio at bobl yn ein grwpiau ffocws:

Dyma’r dyfyniad: ‘... fideo er mwyn i chi allu gweld y persbectif. Tebyg i rai o'r theatrau pan fyddwch chi'n archebu sedd ac maen nhw'n dangos sut mae'r llwyfan yn edrych o ble rydych chi'n eistedd. Felly sut byddai’r ystafell yn edrych o ble?’

Er ei bod yn bosibl oedi ac ailedrych ar fideos, mae'r arferion gorau ar gyfer darparu gwybodaeth drwy fideos yn awgrymu na ddylent fod yn hirach na chwe munud, a phan fydd fideos yn hirach na hyn, dylid eu rhannu'n segmentau (Brame, 2016). Roedd fideos rhai rheoleiddwyr yn llawer hirach na hyn. Er mwyn cydymffurfio â safonau Llywodraeth y DU (2022) dylai fideos hefyd gynnig capsiynau neu drawsgrifiad at ddibenion hygyrchedd.