Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer
Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.2 Hyd a faint o wybodaeth

Dyn ffon yn dangos ei fod wedi'i lethu gan wybodaeth

Er bod pobl yn hoffi cael manylion beth fyddai'n digwydd a pham (e.e. pa mor hir y bydd y broses yn ei chymryd a beth fydd yn digwydd ar ôl mynegi pryder) i osod disgwyliadau, nid oedd dogfennau hir gyda llawer o wybodaeth fanwl am y broses Addasrwydd i Ymarfer bob amser yn ddefnyddiol. Er enghraifft, efallai na fydd gwybodaeth fanwl iawn am fod yn dyst a chroesholi yn berthnasol ar adeg mynegi pryder ac mae crynodebau mwy syml o'r hyn a fydd yn digwydd ar ôl mynegi pryder yn fwy priodol, h.y. yr wybodaeth gywir ar yr adeg gywir.

Roedd tudalennau cynnwys mewn dogfennau hir a'r rheini a oedd yn cysylltu â thudalennau penodol yn y ddogfen yn ddefnyddiol i bobl, yn ogystal â rhestrau bwledi a oedd yn crynhoi gwybodaeth fanwl neu gymhleth. Ceir enghraifft gan Gyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon yn Ffigur 1.

Canllaw cam wrth gam i'r broses addasrwydd i ymarfer ar ôl i atgyfeiriad gael ei wneud. Gan Gyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon.
Ffigur 1Enghraifft o siart llif (Nodyn: Y PCC yw'r Pwyllgor Achosion Cychwynnol sy'n rhan o'r broses ymchwilio).