Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer
Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Pa mor ddefnyddiol: ein canfyddiadau

Mae pa mor ddefnyddiol yw gwefan yn ffordd hanfodol o ddangos pa mor hawdd yw gwefan i'w defnyddio y gellir ei gwerthuso drwy arsylwi defnyddwyr wrth ddefnyddio nodweddion a rhyngwynebau defnyddwyr y wefan. Mae dyluniad da o ran defnyddioldeb yn canolbwyntio ar ddylunio sy'n er mwyn y defnyddiwr, gan roi’r prif bwyslais ar brofiad defnyddwyr yn hytrach na'r weithdrefn ei hun (Ramotion, 2024).

Mae defnyddioldeb gwefannau'n golygu dylunio gwefannau fel eu bod yn ddigon syml i bobl gyflawni eu tasgau'n gyflym ac yn rhwydd (Singhuja a Surajith, 2009). Mae'n cynnwys gallu dod o hyd i'ch ffordd o gwmpas gwefan i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch a gwybod beth i'w wneud nesaf gyda chyn lleied o ymdrech â phosibl (Nah a Davis, 2002). Gan fod defnyddwyr gwefannau'n tueddu i fod â nod penodol mewn golwg, mae defnyddioldeb gwefannau'n bwysig. Gall pobl adael gwefan os ydynt yn cael trafferth cael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen hyd yn oed os yw'r wefan yn cynnwys yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt (McKinney et al., 2002).  

Gwerthusodd un ar ddeg o academyddion ac aelodau o'r tîm ymchwil (gan gynnwys aelod o'r cyhoedd sydd â phrofiad uniongyrchol o fynegi pryder) ddefnyddioldeb y gwefannau. Fe wnaethant gysylltu â gwefannau'r rheoleiddwyr fel aelod o'r cyhoedd a oedd eisiau mynegi pryder i'r pwynt o gyflwyno pryder (ond heb ei gyflwyno). Fe wnaethom ofyn i'n profwyr defnyddioldeb egluro eu profiadau o ddefnyddio'r broses hon.

Gweithgaredd: defnyddioldeb gwefannau wrth fynegi pryder

Timing: Dylech ganiatáu 15 munud

Gwyliwch yr animeiddiad canlynol ynghylch pa mor hawdd oedd defnyddio gwefannau'r rheoleiddiwr ar sail profiadau ein cyfranogwyr. Gwnewch nodiadau yn y blwch testun isod am yr hyn y byddech chi'n ei hoffi o bosibl pe baech chi'n ceisio mynegi pryder. Dim ond chi fydd yn gallu gweld eich nodiadau.

Download this video clip.Video player: witness_to_harm_-_video_2_v2.mp4
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Fe welwch yn yr animeiddiad, er bod rhywfaint o gytundeb rhwng y cyfranogwyr, bod rhai gwahaniaethau barn a dim ond dwy wefan sgoriodd yn ddigon uchel i fod yn 'ddefnyddiol'. Roedd rhai pobl yn hoffi cwestiynau sgrinio i helpu i'w cyfeirio at y lle iawn i fynegi pryder, ond nid oedd eraill yn hoffi hynny. Mae hyn yn awgrymu bod anghenion a dewisiadau unigol yn amrywio a bod hyd yn oed pobl sy'n hyderus gyda gwybodaeth gymhleth yn ei chael hi'n anodd gweithio gyda rhai o'r gwefannau a'r ffurflenni.