Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer
Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sesiwn 3: Sut brofiad mae pobl yn ei gael o’r broses Addasrwydd i Ymarfer ar ôl mynegi pryder?

Cyflwyniad

Chwyddwydr gyda'r geiriau 'cod ymddygiad' yn y gwydr

Pan fydd pryder wedi cael ei fynegi, mae'r rheoleiddiwr yn cymryd nifer o gamau gweithredu. Byddant yn darllen manylion y pryder. Efallai y bydd yn penderfynu bwrw ymlaen â’r pryder ond efallai y bydd yn penderfynu nad oes digon o dystiolaeth neu nad yw'r pryderon yn ddigon difrifol. Efallai y bydd yn penderfynu nad dyma’r sefydliad gorau i ddelio â'r pryder (e.e. efallai y bydd pryder i sefydliad arall yn fwy priodol, fel y darparwr gwasanaeth neu'r comisiynydd) ac na fydd yn bwrw ymlaen ymhellach â'r pryder nes bydd cyflogwr wedi ymchwilio iddo. Ar ôl ymchwilio, gall y rheoleiddiwr hefyd benderfynu nad yw'r pryder yn ddigon difrifol neu nad oes digon o dystiolaeth i symud ymlaen i wrandawiad cyhoeddus, neu os yw'n ddigon difrifol, gall fynd i wrandawiad cyhoeddus llawn gerbron panel. Os oes pryder ynghylch diogelwch pobl eraill neu os yw'r pryder yn ddifrifol iawn, gellir atal y cofrestrai dros dro nes bydd ymchwiliadau pellach wedi'u cynnal.

Gall y broses gymryd misoedd neu flynyddoedd ac mae'n achosi straen i aelodau'r cyhoedd a’r gweithwyr proffesiynol cofrestredig sy'n gysylltiedig. Mae angen llawer o amser ac ymdrech ar ran tystion (e.e. dod o hyd i dystiolaeth a'i darparu, mynd i wrandawiad) a phobl eraill sy'n gysylltiedig. Mae'r sesiwn hon yn ymwneud â sut mae aelodau o'r cyhoedd sydd wedi mynegi pryder am weithiwr proffesiynol i reoleiddiwr iechyd neu ofal cymdeithasol yn ystyried y broses cyn gwrandawiad, a'u barn am yr hyn y gellid ei wella.