1 Ar ôl mynegi pryder
Ar ôl mynegi pryder, bydd y rheoleiddiwr yn adolygu'r wybodaeth ac unrhyw dystiolaeth a gyflwynwyd a gall benderfynu ymchwilio ymhellach. Gelwir hyn yn sgrinio ac ymchwilio. Dyma lle gall y rheoleiddiwr ofyn am ddatganiad gan y sawl sydd wedi mynegi'r pryder, ac unrhyw bobl eraill sy'n gysylltiedig. Mae'r datganiad yn rhoi cyfle i bobl ddarparu'r ffeithiau (fel y maent yn eu gweld) am y pryder. Gellir darparu datganiad ar lafar neu'n ysgrifenedig ac mae'n cynnwys ffeithiau a gwybodaeth am y digwyddiad a arweiniodd at y pryder. Gall ddigwydd drwy e-bost, yn ysgrifenedig neu weithiau wyneb yn wyneb gyda phwynt cyswllt gyda'r rheoleiddiwr, a elwir weithiau'n 'weithiwr achos' neu debyg. Gellir ffurfioli hyn hefyd fel datganiad tyst mewn trafodaeth â thwrnai o'r rheoleiddiwr.
Fel y dengys ein hymchwil, mae pobl yn wahanol o ran sut maen nhw'n profi'r agwedd hon ar y broses Addasrwydd i Ymarfer neu mae gan bobl brofiadau gwahanol o'r broses ac yn gweld bod y broses yn effeithio arnyn nhw mewn gwahanol ffyrdd.