2 Rhwng mynegi pryder a'r gwrandawiad
Mae amrywiaeth o bethau i feddwl amdanynt cyn ac yn ystod gwrandawiad Addasrwydd i Ymarfer, o faterion ymarferol syml fel hawlio treuliau neu deithio i wrandawiad wyneb yn wyneb, a pharatoi datganiad tyst, i roi tystiolaeth fel tyst a chael eich cwestiynu gan y ddau 'barti' yn yr achos, sef cynrychiolydd y cofrestrai a'r rheoleiddiwr.
Gall y rheoleiddiwr ddrafftio datganiad tyst gyda'r sawl sydd wedi mynegi pryder. Gall wirio manylion y datganiad hwn ac yna caiff ei ddefnyddio fel tystiolaeth fel rhan o'r gwrandawiad Addasrwydd i Ymarfer.