2 Profiadau o roi tystiolaeth a chael eich croesholi
Mae croesholi yn derm cyfreithiol a ddefnyddir i ddisgrifio'r broses o ofyn cwestiynau i dystion. Gall croesholi fod yn heriol i dystion ond cofiwch ei bod yn broses angenrheidiol i sicrhau gwrandawiad teg (Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, 2021, t. 13). Gall croesholi barhau am sawl awr ac mae'n cynnwys cynrychiolydd cyfreithiol y rheoleiddiwr (cyflwynydd yr achos) a chynrychiolydd cyfreithiol y cofrestrai, a fydd yn holi cwestiynau am y datganiad tyst. Gall y panel a chynghorydd cyfreithiol y panel holi cwestiynau hefyd. Gellir ailadrodd ac aralleirio cwestiynau a gall hynny arwain at fersiynau o ddigwyddiadau a gynigir sy'n wahanol i'r rhai a gyflwynwyd gyntaf gan y tyst yn ei ddatganiad. Efallai y gofynnir i dystion hefyd pa mor dda y maent yn cofio beth ddigwyddodd a pham eu bod yn credu bod hyn yn wir. Gall treigl amser wneud hyn yn fwy anodd, efallai bod sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers y digwyddiadau.
Gall croesholi fod yn broses heriol, a gall yr unigolyn deimlo'n bryderus yn ei chylch. Gwelsom ei bod yn aml yn syndod i'r cyhoedd weld pa mor heriol oedd y broses. Roeddent yn teimlo bod ansawdd eu tystiolaeth yn cael ei gwestiynu, ac felly hefyd eu cof, eu geirwiredd a'u gonestrwydd fel tyst. Yn aml, gall gwrandawiadau Addasrwydd i Ymarfer gael eu cynnal fisoedd neu flynyddoedd lawer ar ôl i bryderon gael eu codi. Gall cynrychiolydd cyfreithiol y gweithiwr proffesiynol holi cwestiynau sy'n gwneud i'r tyst ymddangos yn annibynadwy, er enghraifft cwestiynu pa mor dda mae'n cofio digwyddiadau.
Gweithgaredd: myfyrio
Gwyliwch yr animeiddiad canlynol a chymerwch ychydig funudau i feddwl pam y gallai croesholi achosi straen. Gwnewch nodiadau yn y blwch testun isod.

Transcript
SIARADWR 1: Ar ôl mynegi pryder wrth reoleiddiwr am weithiwr gofal iechyd neu weithiwr cymdeithasol, mae tystion yn rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiad addasrwydd i ymarfer. Cynhaliodd y tîm ymchwil gyfres o gyfweliadau gyda'r tystion hyn i ddeall eu profiadau ymhellach. Dyfyniadau uniongyrchol yw'r rhain, er bod pwy wnaeth eu dweud wedi newid.
SIARADWR 2: Roedd yn gyfnod anodd iawn. Rydw i'n meddwl fy mod i'n dal yn fregus yn emosiynol o ganlyniad i'r hyn a ddigwyddodd ac wrth ddelio â phopeth. Ac wedyn eto, fel y dywedais, gorfod siarad amdano mewn man cyhoeddus. Yn amlwg, roedd hynny'n hunllef i mi beth bynnag, gorfod siarad am rywbeth mor bersonol a thrawmatig. Roedd yn gofyn llawer.
Pan gyrhaeddais y gwrandawiad, roeddwn i'n nerfus iawn. Ond pan oeddwn i yno, roeddwn i'n teimlo'n gyfforddus iawn gyda'r gweithiwr achos a chefais fy arwain i'r ystafell ymlaen llaw. Felly pan oeddwn i'n deall lle byddwn i'n eistedd, pwy fyddai'n siarad â mi, pwy arall fyddai yn yr ystafell, a fyddai hyn yn cael ei recordio, roeddwn i'n teimlo'n well.
SIARADWR 3: Roedd yn frawychus, ond mae'n rhaid i chi fod yn gryf, ac yna ceisio cofio pethau oherwydd doeddwn i ddim yn sylweddoli ei fod wedi achosi i mi anghofio pethau. Fe wnaethant holi, sut ydych chi'n gwybod eich bod wedi colli eich cof? Roedden nhw'n gofyn cwestiynau i mi, a dywedais, dydw i ddim yn cofio. Fe dreulion ni oesoedd ar rai pwyntiau.
Rydw i'n gallu cofio pethau, beth ddigwyddodd, ond mae yna rai pethau nad ydw i'n gallu eu cofio oherwydd bod fy nghof wedi mynd. Ac roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi cael fy ngham-drin. Fe ddylent fod yn fwy gwyliadwrus. Doedden nhw ddim yn ymwybodol o'r peth, felly roedd angen mwy o waith caled o’n ochr i. A'r ffordd roedd y cyfreithwyr yma'n siarad hefyd, roeddwn i'n teimlo fel dweud dydw i ddim yn y llys yma.
Ac roedd cymaint o waith papur hefyd. Felly maen nhw wedi drysu hefyd. Mae gennych chi dudalen, mae gennych chi fwndeli yma, ac yna rydych chi'n mynd i dudalen 699. Mae'n rhaid i chi geisio dod o hyd iddi. Ac yna honna’n y fan yn, ac yna mae'n rhaid i chi fynd i'r dudalen honno. Mae braidd yn ddryslyd.
SIARADWR 4: Dwi'n meddwl eu bod nhw wedi rhoi rhyw fath o esboniad i mi sut roedd y broses yn gweithio. Ond beth fyddai wedi bod fwyaf defnyddiol, yn fy marn i, yw pe bai rhywun wedi ceisio fy mharatoi ar gyfer sut beth fyddai'r broses croesholi. Felly, ie, cawsom bythefnos arall yn [BLEEP] y bu'n rhaid i ni ei sortio ein hunain.
Ond mae gen i gefnder sy'n byw yn ymyl [BLEEP]. Felly fe wnaethom aros yn ei ystafell sbâr. Ac yn y bôn, symudodd fy rhieni i mewn a gofalu am fy nhri phlentyn am y pythefnos hwnnw. Ond roedd yn hunllef o ran logisteg, ac nid oedd y merched yn hapus ein bod yn diflannu.
Felly -- dw i'n meddwl ei bod hi'n anodd peidio â chael cynrychiolydd oherwydd allwch chi ddim siarad yn ôl a dadlau drosoch chi'ch hun. Felly roedd yn teimlo fel y gallai'r bargyfreithiwr ddweud beth bynnag yr oedd ei eisiau a cheisio fy nhynnu i'n ddarnau a gwneud yn glir fy mod i'n fam wael, ac nad oeddwn i'n poeni am fy mhlant ac fy mod i'n rhy brysur i fynd i wneud yr hyn a ddywedodd y fydwraig, ac nad oeddwn i'n gwrando, ond nad oeddwn i'n cael dweud na, nac yn cael rhoi unrhyw dystiolaeth amdanaf fy hun sy'n profi fy mod i bob amser yn cymryd cyngor gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Oherwydd nid fi oedd yn bwysig yma. Addasrwydd y fydwraig i ymarfer oedd yn bwysig yma.
Trafodaeth
Mae'n debyg i chi nodi amryw o resymau pam y gall croesholi fod yn heriol. Canfu ein tîm ymchwil, drwy arsylwi ar wrandawiadau, fod peidio â chael eich credu neu gael rhywun yn cwestiynu eich cymeriad yn fath o anghyfiawnder moesol a cheir tystiolaeth ohono hefyd y tu allan i'r ymchwil hwn (Fricker, 2007). Mae'n brofiad gofidus cael eich camliwio a'ch herio yn y gwrandawiad. Efallai yr awgrymir yn ystod y croesholi nad ydych yn cofio digwyddiadau'n gywir neu fod eich dealltwriaeth o'r hyn a ddigwyddodd yn anghywir. Gall hyn deimlo'n annheg iawn.
Mae croesholi hefyd yn heriol oherwydd bod tensiynau'n aml rhwng safbwyntiau aelodau'r panel, y tystion a chofrestreion.
Dyma’r persbectifau:
Y panel
Ni yw'r panel Addasrwydd i Ymarfer. Rydym yn canolbwyntio ar ddiogelu'r cyhoedd, sefydlu a oes amhariad ar Addasrwydd cofrestrai i Ymarfer a chymryd camau yn unol â hynny. Rydym yn canolbwyntio ar weithredoedd y cofrestreion. Gall niwed fod yn arwydd o gamymddwyn, a gellir ei gysylltu â sancsiynau.
Y tyst
Fi yw'r tyst, mae fy mhrofiad yn cwmpasu fy hanes o ddigwyddiadau a arweiniodd at y gwrandawiad (a'r broses o roi gwybodaeth i ymchwiliad a gwrandawiad). Rwy'n canolbwyntio ar effaith digwyddiadau.
Y cofrestrai
Fi yw'r cofrestrai, dwi yma i amddiffyn fy achos a phrofi fy mod yn addas i ymarfer.
Er mwyn paratoi ar gyfer y gwrandawiad, efallai y bydd pobl eisiau gwybod sut y bydd cwestiynau’n cael eu holi a'r mathau o bethau y gall tystion ofyn amdanynt i'w helpu yn ystod y broses groesholi. Ac er bod rheoleiddwyr yn darparu gwybodaeth, nid yw o reidrwydd yn cael ei defnyddio gan dystion. Gwelsom fod y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (2022) yn darparu rhai pethau allweddol i'w cofio am gael eu holi fel tyst (Blwch 1) a'r hyn y gall tyst ei wneud. Gall y panel a'r cynghorydd cyfreithiol reoli'r broses holi, a chamu i mewn os ydynt yn credu ei fod yn amhriodol. Gall tyst hefyd ofyn iddo a yw'r cwestiwn yn briodol ac a oes rhaid iddo ei ateb neu, os yw'n teimlo bod arno angen seibiant o’r croesholi.
Blwch 1 Yr hyn y mae'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (2022) yn cynghori tystion yn eu canllawiau i dystion
Wrth ateb cwestiynau, gwnewch y canlynol:
- cymryd eich amser
- siarad yn glir ac yn araf fel y gall pawb glywed eich tystiolaeth ac y gellir gwneud recordiad
- gofyn am seibiant os oes angen un arnoch.
Pethau pwysig eraill i'w cofio wrth roi tystiolaeth:
- Gwrando'n ofalus ar y cwestiynau a gwneud yn siŵr eich bod yn eu deall cyn rhoi eich ateb.
- Os nad ydych chi’n deall y cwestiwn, dywedwch 'Dydw i ddim yn deall. Allwch chi ofyn hynny i mi eto mewn ffordd wahanol?’ Os nad ydych chi'n deall o hyd, mae'n iawn dweud 'Mae'n ddrwg gen i, ond dydw i dal ddim yn deall'.
- Os bydd rhywun yn gofyn dau neu dri chwestiwn i chi gyda'ch gilydd, gallwch ofyn iddyn nhw ailadrodd y cwestiynau un ar y tro.
- Peidiwch â cheisio ateb cwestiwn os nad ydych chi'n gwybod yr ateb neu os nad ydych chi'n gallu cofio.
- Os gofynnir yr un cwestiwn i chi eto, nid yw hyn yn golygu bod eich ateb cyntaf yn anghywir. Atebwch y cwestiwn eto.
