Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer
Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Y canlyniad

Llaw yn rhoi’r darn olaf mewn pos jig-so

Efallai y bydd rhai pobl sydd wedi rhoi tystiolaeth yn dymuno aros am weddill y gwrandawiad. Ac er y gallai hyn greu mwy o 'waith' (e.e. ariannol neu'r angen i ymestyn gofal plant), mae llawer o bobl eisiau gweld gweddill y gwrandawiad.

Ar ôl cwblhau'r gwrandawiad a gwneud penderfyniad am y canlyniad (a elwir yn benderfyniad), gwelsom nad oedd llawer o gymorth ar gael i bobl ddeall y canlyniad. Nid oedd yn glir iddynt chwaith pa gamau y gallant eu cymryd gyda'r rheoleiddiwr neu gyrff eraill, na sut i gael cyngor annibynnol neu gymorth emosiynol. Mae rheoleiddwyr yn darparu gwybodaeth am y canlynol:

  1. Hawlio treuliau (sut i wneud hynny).
  2. Penderfyniadau ynghylch canlyniadau (y gwahanol benderfyniadau y gall y panel eu gwneud). Er enghraifft, tynnu'r gweithiwr proffesiynol oddi ar y gofrestr, ei atal rhag ymarfer, amodau o ran yr hyn y gallant ei wneud am gyfnod neu ddim gweithredu.
  3. Apeliadau gan gofrestrai (y gall y cofrestrai apelio yn erbyn penderfyniad y panel).
  4. Sut i roi adborth am y profiad.

Roedd cyfranogwyr ein grŵp ffocws yn teimlo y byddent am i'r canlyniad gael ei ddarparu'n ysgrifenedig ac mae rheoleiddwyr yn darparu hyn:

Dyma’r dyfyniad: ‘Ar ôl i benderfyniad gael ei wneud yn y gwrandawiad Addasrwydd i Ymarfer, byddwn am i'r dyfarniad llawn gael ei wneud yn ysgrifenedig p'un ai a aeth y penderfyniad o'm plaid ai peidio.

Ac, rydym yn gwybod gan yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (2020) sy'n canolbwyntio ar gwynion gofal iechyd ei bod yn bwysig bod gwybodaeth/dulliau cyfathrebu â thystion yn cael ei theilwra i anghenion unigol er mwyn iddynt allu deall y canlyniad a beth mae hyn yn ei olygu. Teimlai llawer nad oedd hyn yn wir. Dywedodd tyst cyhoeddus:

Dyma’r dyfyniad: ‘...Ac i fod yn onest roedd hynny'n dipyn o sioc, cael e-bost sy'n dweud gyda llaw, cafodd gerydd a dyma'r PDF gyda nodiadau llawn y gwrandawiad, y canfyddiadau llawn. Felly roedd hynny'n digwydd drwy e-bost ...’

Mae rhai rheoleiddwyr yn darparu canlyniadau mewn dogfennau hir (weithiau dros 50 tudalen o hyd) ac yn defnyddio iaith sy'n anodd i aelodau o'r cyhoedd ei deall. Mae'n bwysig bod dulliau cyfathrebu ag aelodau o'r cyhoedd yn addas i'w hanghenion unigol a'u bod yn cael cymorth i ddeall beth mae'r canlyniad yn ei olygu.