Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer
Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Argymhellion i reoleiddwyr a'r llywodraeth

Mae'r adran hon yn eich galluogi i feddwl am yr hyn y byddech chi’n ei argymell i reoleiddwyr a'r llywodraeth er mwyn gwella profiadau pobl sy'n mynegi pryderon.

Gweithgaredd: myfyrio

Timing: Dylech ganiatáu 10 munud

Ar sail eich dealltwriaeth o ganfyddiadau Sesiynau 1 i 4, pa argymhellion fyddech chi'n eu cynnig i'r llywodraeth? Hefyd, beth ddylai rheoleiddwyr ei wneud i ddarparu cymorth annibynnol i atgyfeirwyr cyhoeddus? 

Os na wnaethoch gwblhau Sesiynau 1 i 4, efallai yr hoffech feddwl am yr hyn y byddech yn ei ddisgwyl gan reoleiddiwr pe baech am godi pryder.

Os hoffech chi, gwnewch nodiadau yn y blwch testun isod. Dim ond chi fydd yn gallu gweld eich nodiadau.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Mae'n debyg y byddwch yn cytuno bod angen cymorth ychwanegol ar aelodau o'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol sy'n awyddus i fynegi pryder. Dylai hyn gynnwys cyngor cyfrinachol a chyfeirio cliriach ar gyfer y rheini sy'n ystyried mynegi pryder; cymorth i fynegi'r pryder, cymorth eiriolaeth; a chymorth wrth i'r pryder fynd rhagddo, gan gynnwys ar gyfer tystion mewn gwrandawiadau Addasrwydd i Ymarfer. Mae'r argymhelliad allweddol hwn hefyd yn rhan o Tackling Support Locally (Yr Adran Iechyd, 2009, t. 50). Yn yr un modd, rydym yn dadlau y dylai rheoleiddwyr a chyflogwyr gyfeirio atgyfeirwyr cyhoeddus at ffynonellau eiriolaeth a chyngor annibynnol ar draws y gwahanol brosesau gan gynnwys cwestau, achosion sifil, cwynion am y GIG, cwynion am wasanaethau cymdeithasol ac achosion troseddol.

Ar sail canfyddiadau ein hymchwil, teimlwn y dylai'r holl argymhellion hyn gefnogi gwella'r broses Addasrwydd i Ymarfer i bawb. Mae'r fideo canlynol yn rhoi sylwadau rhai rheoleiddwyr am ein canfyddiadau a'n hargymhellion.

Gwyliwch Ffilm 1 drwy ddilyn y ddolen ganlynol: Gwella profiadau tystion cleifion, teuluoedd a chydweithwyr o achosion Addasrwydd i Ymarfer: Astudiaeth dulliau cymysg [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Rydym hefyd yn awgrymu y dylai cyflogwyr a rheoleiddwyr iechyd a gofal cymdeithasol adolygu ac ymestyn y cymorth gwybodaeth, lles ac emosiynol a gynigir i aelodau o'r cyhoedd, cofrestreion a thystion sy'n gydweithwyr o ran prosesau Addasrwydd i Ymarfer. Yn ogystal â hyn, ar sail ein canfyddiadau, rydym yn argymell bod rheoleiddwyr yn cydnabod rôl allweddol y cyhoedd pan fyddant yn codi pryderon yn y broses Addasrwydd i Ymarfer. Hefyd, mae angen iddynt ddeall sut gall y cyhoedd brofi prosesau Addasrwydd i Ymarfer, eu cymhellion dros fynegi pryder yn y lle cyntaf, effaith natur anghyfarwydd y prosesau hyn, a'r gwaith a'r costau personol sy'n gysylltiedig â'r cyhoedd. Dylent gydnabod y niwed a achosir gan gyfathrebu sy'n amlwg yn ddeddfol neu'n amharchus yn anfwriadol. Rydym yn gwneud yr argymhellion hyn i holl reoleiddwyr gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol y DU.

Tri aelod o banel/pwyllgor yn gwrando ar dyst.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gweithgaredd: myfyrio

Timing: Dylech ganiatáu 5 munud

Ystyriwch pa argymhellion y byddech yn eu gwneud i reoleiddwyr ynghylch darparu gwybodaeth. Gwnewch nodiadau yn y blwch testun isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Fe wnaethom nodi pedwar argymhelliad i ddarparu gwybodaeth yn effeithiol:

  1. Cefnogi aelodau o'r cyhoedd i ddeall prosesau Addasrwydd i Ymarfer a chamau gwneud penderfyniadau, ateb eu cwestiynau a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt yn rheolaidd.
  2. Darparu gwybodaeth gliriach i'r cyhoedd a’i llunio ar y cyd ag aelodau o'r cyhoedd i nodi’r camau y gellir eu cymryd i gefnogi pobl i fynegi pryderon ac i ddarparu tystiolaeth fel tyst drwy gydol y broses ac mewn gwrandawiad.
  3. Dylai gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd gael ei dylunio i gael ei deall gan y mwyafrif helaeth o boblogaeth oedolion y DU drwy: gydymffurfio â gofynion hygyrchedd llywodraeth y DU o ran cael ei geirio i fod yn hawdd ei deall gan y rheini sydd â llythrennedd a chymorth cyfyngedig er mwyn i bobl ddeall bod pynciau mwy cymhleth ar gael mewn fformatau gwahanol, gan gynnwys sain a fideo sy'n ymdrin â phob un o brif gamau’r broses Addasrwydd i Ymarfer a'r cymorth sydd ar gael.
  4. Dylai rheoleiddwyr ystyried darparu swyddogaeth gyswllt i gyflogwyr, lle nad yw hyn eisoes yn bodoli, i wella'r broses o ddewis a rheoli achosion ac i nodi materion a allai fod yn gyfrifoldeb ar y cyflogwr i gefnogi'r tystion.

Mae cyfathrebu'n hanfodol wrth gefnogi atgyfeirwyr cyhoeddus. Yn hytrach na chyfathrebu unffordd sy'n seiliedig ar drosglwyddo gwybodaeth, credwn yn gryf y dylai rheoleiddwyr ganolbwyntio ar gyfathrebu dwyffordd er mwyn i atgyfeirwyr cyhoeddus deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u clywed yn y broses Addasrwydd i Ymarfer. Mae sawl ffordd y gallant gyflawni hyn, ac yn y gweithgaredd canlynol byddwch yn dysgu sut y gallai rheoleiddwyr gryfhau eu dulliau cyfathrebu ag atgyfeirwyr cyhoeddus.

Gweithgaredd: myfyrio

Timing: Dylech ganiatáu 10 munud

Gwyliwch yr animeiddiad canlynol.

Download this video clip.Video player: witness_to_harm_-_video_5_v2.mp4
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae'r holl ddatganiadau hyn yn argymhellion sy'n seiliedig ar ganfyddiadau ein hymchwil. Meddyliwch am yr argymhellion hyn ac ystyriwch a ydych chi'n teimlo y byddent yn helpu i wella Addasrwydd i Ymarfer. Ysgrifennwch eich ymateb yn y blwch wrth ymyl y datganiad.

Datganiad Cytuno/Ddim yn siŵr/Anghytuno?
Esbonio swyddogaeth a phwrpas y broses yn glir, ac esbonio ym mhob achos pam na ellid cynnwys agweddau ar achos, neu y gellid cau atgyfeiriad.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Gwrando'n astud ar bryderon pobl am y broses a mynd i'r afael â nhw, cyn belled ag y bo modd.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Cofnodi datganiad o'u pryderon ac effaith y pryderon hyn a sicrhau eu bod ar gael i staff y rheoleiddwyr drwy gydol yr achos.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y bobl y mae'r achos yn effeithio arnynt yn rheolaidd. Os bydd oedi nad oes modd ei osgoi, esboniwch mor glir â phosibl pam mae hyn wedi digwydd a beth fydd yn digwydd nesaf.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Sefydlu'r dull cyfathrebu, faint o wybodaeth sydd ar gael ac amseru'r dulliau cyfathrebu â'r cyhoedd a fynegodd bryderon ac eraill y mae'r achos yn effeithio arnynt a sicrhau bod hyn ar gael i staff y rheoleiddwyr drwy gydol yr achos.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Dylai penderfyniadau gael eu cyfleu gan aelodau priodol o staff sy'n gallu ateb cwestiynau.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Adolygu terminoleg a darparu hyfforddiant staff mewn ymgysylltu a chyfathrebu parchus ac empathig.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Geiriau: 0
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gadael sylw

Ar sail canfyddiadau ein hymchwil, teimlwn y dylai'r holl argymhellion hyn gefnogi gwella'r broses Addasrwydd i Ymarfer i bawb.