Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer
Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Yn y gwrandawiad

Nawr rydych chi'n mynd i ganolbwyntio ar ran gwrandawiad y broses Addasrwydd i Ymarfer. Gall y broses groesholi achosi niwed ychwanegol i dystion. Dylai rheoleiddwyr gefnogi tystion i ddeall natur bod yn dyst cyhoeddus a chroesholi, gan gynnwys egluro'r gwrandawiad yn glir; pa gamau y gallant eu cymryd wrth roi tystiolaeth fel gofyn am egwyl, ac i aralleirio cwestiynau.

Dylai aelodau'r panel a chynghorwyr cyfreithiol gael eu hyfforddi i ddefnyddio eu rôl i atal neu ymyrryd mewn croesholi amhriodol neu drallodus. 

Mae angen i reoleiddwyr gefnogi tystion i arsylwi'r achos ar ôl iddynt roi tystiolaeth os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Yn olaf, dylid sicrhau bod enw a rôl gywir/neu aros yn ddienw pawb sy'n bresennol wedi’u nodi'n gywir mewn gwrandawiadau ar-lein.

Hefyd, lle bo'n briodol, ac ar y cyd â'r tyst cyhoeddus, dylai rheoleiddwyr ystyried a allai dulliau croesholi amgen neu ddiwygiedig fod yn briodol ac yn bosibl o fewn y prosesau Addasrwydd i Ymarfer presennol. Yn fwy cyffredinol, mae angen iddynt ystyried a oes modd chwilio am opsiynau eraill yn lle prosesau Addasrwydd i Ymarfer a'u gwerthuso gan gyfeirio at sicrhau bod lleisiau tystion sydd wedi'u niweidio yn cael eu clywed, ymysg materion eraill.