Casgliad y cwrs: meddwl am Addasrwydd i Ymarfer
Mae'r adnodd hwn wedi archwilio canfyddiadau'r prosiect ymchwil 'Tyst i Niwed, Dal i Gyfrif'. Roedd yn trafod profiadau pobl sydd wedi bod yn rhan o'r broses Addasrwydd i Ymarfer, gan godi pryder am weithwyr proffesiynol cofrestredig. Fe wnaeth Sesiwn 1 eich cyflwyno i'r broses Addasrwydd i Ymarfer ac archwilio'r rhesymau pam y byddai rhywun eisiau mynegi pryder am weithiwr proffesiynol. Roedd Sesiwn 2 yn edrych ar y ffyrdd o fynegi pryder a pha mor hawdd (neu anodd) yw gwneud hyn. Esboniodd sesiynau 3 a 4 brofiadau pobl sydd wedi mynegi pryder a sut beth yw bod yn dyst mewn gwrandawiad. Yn olaf, gwnaethom gyflwyno argymhellion canfyddiadau ein hymchwil sy'n egluro sut y gellid gwella profiad aelodau o'r cyhoedd neu bobl sy'n dystion mewn gwrandawiad o'r broses Addasrwydd i Ymarfer.
Mae ein hargymhellion yn cynnwys:
- tosturi ac uniondeb wrth ddelio â phryderon
- mwy o eglurder ynghylch ble, pryd a sut i roi gwybod am bryderon
- mwy o gynhwysiant yn y broses Addasrwydd i Ymarfer
- defnyddio mwy o arbenigwyr sy'n deall neu'n arbenigo mewn materion penodol
- gwybodaeth, paratoi a mwy o gefnogaeth arall
- cwtogi ar hyd y broses
- rheoleiddwyr i wneud eu hunain yn fwy amlwg i'r cyhoedd, 'hyrwyddo eu hunain a'u rôl'.
Gweithgaredd: myfyrio
Nawr eich bod wedi cwblhau'r cwrs hwn, meddyliwch am yr hyn rydych wedi'i ddysgu.
Sut byddech chi'n disgrifio eich gwybodaeth am brosesau Addasrwydd i Ymarfer a sut mae pobl yn profi'r rhain?
A wnaeth y cwrs hwn wella eich gwybodaeth am brosesau Addasrwydd i Ymarfer a sut mae pobl yn profi'r rhain?
Sut byddwch chi'n defnyddio'r wybodaeth rydych chi wedi'i dysgu ar y cwrs hwn? Gwnewch nodiadau yn y blwch testun isod.
Caiff yr astudiaeth/prosiect hwn eu hariannu gan raglen Iechyd, Diogelwch a Datblygiad Ymchwil NIHR (NIHR131322). Barn yr awdur(on) sy'n cael ei mynegi ac nid yw'r NIHR na'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol o reidrwydd yn rhannu'r un farn.
Fel y gwyddoch efallai, rydym yn cynnal prosiect gwerthuso ar gyfer yr adnodd hwn ar hyn o bryd. Gallwch werthuso eich profiad o'r cwrs hwn yn yr arolwg canlynol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
