1 Beth yw cyfathrebu?
Gweithgaredd 1
Edrychwch ar y delweddau hyn. Beth sydd gan yr holl bethau hyn yn gyffredin?
Ffigur 1 Beth sydd ganddynt yn gyffredin?
Edrychwch eto, a nodwch beth mae pob un ohonynt yn ei gyfathrebu yn eich barn chi.
Sylwadau
- a.Aderyn yn canu – gallai fod yn ceisio amddiffyn ei diriogaeth neu ddenu cymar.
- b.Ambiwlans gyda goleuadau'n fflachio a seiren – allan o'r ffordd, rwyf ar frys.
- c.Ffôn sy'n derbyn neges destun – mae rhywun am ofyn neu ddweud rhywbeth wrth rywun arall. something.
- d.Cath yn troelli o amgylch traed ei pherchennog ac yn canu grwndi'n uchel – mae hyn fel arfer yn golygu ei bod eisiau bwyd!
- e.Person yn gafael yn llaw rhywun arall – cynnig cysur neu garedigrwydd.
- f.Babi'n crïo – ei unig ffordd o ddweud wrthych fod rhywbeth yn bod.
- g.Ffôn yn canu a pherson yn ateb – mae rhywun am ofyn neu ddweud rhywbeth wrth rywun arall.
- h.Radio/teledu gyda'r newyddion yn dod ymlaen – gwybodaeth am beth sy'n digwydd yn y byd.
Mae pob un ohonynt yn cyfathrebu mewn rhyw ffordd – mae gan bob un ohonynt rywbeth i'w ddweud wrthych.
Rydym yn cyfathrebu drwy'r adeg, weithiau heb sylweddoli hynny. Weithiau, gall rhywbeth mor syml â chodi aeliau, gwenu neu wgu gyfleu neges a gaiff ei deall yn glir rhwng un person â'r llall. Mewn gwirionedd, dull o gyfathrebu yw popeth a wnawn. Gallwn ddangos i bobl sut hwyliau sydd arnom dim ond yn y ffordd rydym yn cerdded i lawr y stryd neu'r ffordd rydym yn ateb y ffôn. Mae'r gweithgaredd nesaf yn gofyn i chi feddwl am y ffyrdd y mae pobl yn cyfathrebu.
Gweithgaredd 2
Fel rydych newydd ei weld, mae sawl ffordd o gyfathrebu. Ysgrifennwch o leiaf ddeg ohonynt yma.
Sylwadau
Dyma rai ohonynt:
- blog
- iaith y corff
- e-bost
- cyswllt llygad
- llythyrau
- ystumiau corfforol
- lluniau
- podlediad
- radio
- iaith arwyddion
- Skype
- lleferydd
- ffôn
- neges destun
- cyffyrddiad
- teledu
- ysgogiad llais
a llawer mwy.