1.1 Rhwystrau i gyfathrebu
Mae cyfathrebu da yn hanfodol mewn gofal cymdeithasol. Mae'n ein galluogi i feithrin cydberthnasau â'r bobl rydym yn gofalu amdanynt a'u teuluoedd, datblygu cydberthnasau â phobl rydym yn gweithio gyda nhw a gweithwyr proffesiynol eraill, darparu gwybodaeth glir a chofnodi ac adrodd yn briodol.
O'r adeg y byddwn yn codi i'r adeg y byddwn yn mynd i gysgu, rydym yn cyfathrebu. Gallwn gael cannoedd o adegau mewn diwrnod pan fyddwn yn cyfathrebu mewn sawl ffordd wahanol, a gyda llawer o bobl. Ond nid yw pawb mor ffodus â hynny.
Mae rhai pobl yn cael trafferth fawr cyfleu'r hyn maent am ei gael gennym, ac weithiau gall hyn arwain at ymddygiad sy'n anodd delio ag ef oherwydd eu rhwystredigaeth o fethu â chyfleu eu hunain a chael yr hyn sydd ei angen arnynt.
Pan fyddwn yn cyfathrebu, mae'n ymwneud â mwy na dim ond y geiriau y byddwn yn eu defnyddio (cyfathrebu llafar). Mae hefyd angen i ni ystyried y ffordd y byddwn yn dweud y geiriau hynny – tôn ein llais, cyflymder ein geiriau, pa mor uchel neu ddistaw rydym yn siarad (cyfathrebu lleisiol) a beth mae ein cyrff – yn enwedig ein hwynebau a'n dwylo – yn ei ddweud. Gelwir iaith y corff fel arfer yn gyfathrebu gweledol ac mae'n cynnwys y ffordd rydym yn sefyll neu'n symud ein cyrff, y ffordd rydym yn defnyddio ein dwylo, y mynegiant ar ein hwynebau a'r cyswllt llygaid a wnawn.
Gweithgaredd 3
Gwyliwch y fideo hwn:
Transcript: Pe byddai gweinyddion yn onest
Pe byddai gweinyddion yn onest
Pe na fyddech yn deall y geiriau mae'r bobl hyn yn ei ddweud, pa argraff y byddech yn ei chael o'r gwasanaeth roeddech yn ei gael?
Meddyliwch beth oedd y bobl yn y fideo hwn yn ei ddweud wrthych:
- y geiriau maent yn eu defnyddio
- y ffordd maent yn dweud y geiriau
- iaith y corff.
Pa un o'r rhain wnaethoch chi sylwi arno fwyaf? Ysgrifennwch eich meddyliau yn y blwch isod.
Sylwadau
Mae'n hawdd gweld o'r fideo mai dim ond rhan o'r neges rydym yn ei chyfathrebu pan fyddwn yn siarad yw'r geiriau a ddefnyddiwn. Mae lleferydd y bobl yn y fideo hwn yn dweud rhywbeth hollol wahanol i'r hyn maent yn ei ddweud gyda thôn eu llais ac iaith eu corff. Meddyliwch am hyn pan fyddwch gyda'r bobl rydych yn gofalu amdanynt, ac ystyriwch pa neges rydych yn ei rhoi iddynt, yn enwedig os na allant ddeall beth rydych yn ei ddweud.
Cyfathrebu gweledol, llafar a lleisiol
Nawr, rydych am ystyried cyfathrebu gweledol, llafar a lleisiol, a pha un o'r mathau hyn o gyfathrebu rydym yn ei ddefnyddio amlaf.
Gweithgaredd 4
a.
(a) Gweledol 43% Lleisiol 21% Llafar 36%
b.
(b) Gweledol 71% Lleisiol 2% Llafar 27%
c.
(c) Gweledol 55% Lleisiol 38% Llafar 7%
Yr ateb cywir yw c.
Sylwadau
(c) Gweledol 55% Lleisiol 38% Llafar 7%